GAEYNOR Mai Jones, yn wreiddiol o Aberystwyth, enillodd y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy ar 22ain o Fehefin.
Dyma’r drydedd tro i Gaeynor, sydd bellach yn byw ym Mhentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, gipio cadair Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy.
Enillydd Ysgoloriaeth Colin Jones oedd Ilan Jones o Fachynlleth ac yntau hefyd enilliodd yr Her Unawd.
Yn ail oedd Cai Fôn Davies, o Ynys Môn gyda Rachel Bedwin o Fangor yn drydydd.
Ifan Gruff o Ddeganwy ger Llandudno enilliodd Tlws yr Ifanc a Leisa Mair Lloyd -Edwards o’r Groeslon ger Caernarfon enilliodd Dlws y Cerddor.
Meilir Tudur Davies o Gaernarfon oedd enillydd Tlws Coffa Maureen Hughes yn rhoddedig gan Ferched y Wawr, Aberconwy i’r cystadleuydd mwyaf addawol yn yr Adran Gerdd bl.9 ac iau.
Enillydd yr Unawd Offerynnol bl.10 i 21 oed oedd Lea Mererid Roberts o Bwllheli.
Yn ail ar yr Her Unawd roedd Richard Rees, Machynlleth gyda Gareth Jones, Henllan yn drydydd.
Ar yr Her Unawd Gymraeg daeth Ian Pritchard-Jones, Wrecsam i’r brig gyda Heidi Mason, Penmachno yn ail a Mostyn Jones, Llanrwst yn drydydd.
Daeth pedawr côr i gystadlu gyda Côr Rhuthun yn dod i’r brig.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.