THE latest community news from Pwllheli.
Capel y Drindod
GWENER, 3 Mawrth: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.Sul, 5 Mawrth: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh Oedfa o Fawl yn Ebeneser, Y Ffôr.Llun, 6 Mawrth: 2yh, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Oedfa Undebol y Grawys (lleoliad i’w gadarnhau).Mawrth, 7 Mawrth: 7yh, Y Sied.Mercher, 8 Mawrth: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Cymdeithas
CAFODD aelodau Cymdeithas Ddiwylliannol Y Drindod gyfle i ddathlu Gwyl Ddewi nos Wener, 24 Chwefror. Daeth nifer da ynghyd i festri fawr y capel i fwynhau cawl wedi ei baratoi gan y gweinidog a chacen afal a hufen neu salad ffrwythau wedi ei baratoi gan y pwyllgor.Roedd y byrddau wedi eu harddurno gan Lydia Jones a Jean Williams.Wedi’r wledd croesawodd Griff T Owen, llywydd y noson, barti o enethod ieuanc o’r enw ‘Llewyrch’ a’u harweinydd a chyfeilydd medrus Ilid Anne Jones. Cafwyd noson safonol ac amrywiol o ganu ganddynt i ddathlu’r Wyl.Diolchwyd iddynt gan y gweinidog am raglen a oedd at ddant pawb, gyda diolch hefyd i’r pwyllgor ac yn arbennig i’r ysgrifennydd, Catherine Hefina Jones.Noddwyd y noson yn rhannol gan y Cyngor Celfyddydau, sef ‘Noson Allan Bach’. Y GarawysYN dilyn yr arferiad cynhelir oedfaon unedig ym mhob un o eglwysi’r dref yn eu tro bob nos Lun gydol Y Garawys. Y thema eleni yw ‘Disgyblion’. Cynhelir y cyntaf yn eglwys Sant Pedr nos Lun nesaf, 6 Mawrth, gan bwysleisio ar y disgybl Pedr. Bydd y gwasanaeth yn ddwyieithog a dechreuir am 7.30yh. Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church, this coming Sunday, 5 March, which will be led by the minister, Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Aelwyd Chwiorydd
LLYWYDDWYD cyfarfod o Aelwyd y pnawn Chwiorydd y Drindod ddydd Llun, 20 Mawrth, gan Elisabeth Williams. Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol. Gwraig wadd y pnawn oedd Elisabeth Jones, Boduan. Roedd wedi dod â chasgliad o luniau gyda hi. Lluniau gydag arwyddocad personol iddi hi yn ystod ei bywyd. Y cyntaf ohonynt oedd ‘Broad and Narrow’ sy’n darlunio y ffordd rwydd i ddistryw a’r ffordd anodd i’r nefoedd. Dangosodd hefyd lun o ddwy law bron a chyffwrdd wedi ei godi o’r to a beintiwyd gan Michelange-lo yn Sistene Chapel, y Vatican, Rhufain.Diweddodd gyda poster o’r ‘Ddwy law yn erfyn’ poblogaidd, a llun y ‘Smiling Chimp’. Soniodd am ei chred a’i magwraeth, yr Ysgol Sul a dylanwadau eraill oedd wedi ei galluogi i wynebu treialon bywyd.Cafwyd trafodaeth i ddilyn a phaned i gloi y cyfarfod.
St Peter’sSUNDAY: 10.30am, Holy Eucharist/ Offeren Sanctaidd; 4pm, Gosber; Monday: 9.30am, Celtic Morning, Prayer and Meditation; Tuesday: 10.30am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday: 10.30am, Women’s World Wide Day of Prayer, bilingual service; 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday: 10am, Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd.
The Food Bank is held in the church every Tuesday and Friday between 2pm and 3pm.
Oedfaon
CAPEL Seion: 10yb, Glyn Owen, Llanwnda; Capel Penlan: 10yb, Parch Glenys Jones; Crynwyr: Dydd Sul/Sunday 11.30am, Y Drindod.
Catholic Masses in the Parish
ST JOSEPH’s: Sunday, 9am; Saturday, 6.30pm.Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 11.30am.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.