THE latest community news from Pwllheli

Clwb y Bont

MEINIR Pierce Jones, Nefyn, oedd y wraig wadd ar gyfer noson gyntaf y tymor.

Cafodd ei chyflwyno gan Gwyndaf Hughes fel awdures, cyfeithydd, golygydd a churadur Amgueddfa Forwrol Nefyn.

Rhoddodd hanes ei hen daid a fu’n forwr ac yna yn gapten ar longau hwyliau yn niwedd y 19eg canrif.

Cafodd yrfa anturus yn llawn troeon anffodus. Collwyd un llong ar Afon Para, Brasil.

Dro arall bu farw’r capten a bu’n rhaid iddo yntau gymryd drosodd a’i gymryd yntau wedyn yn wael.

Ar ei fordaith olaf yn cludo glo o Lanelli i Oporto diflanodd y llong a ni chlywyd dim amdani wedyn.

Er mwyn ceisio ail-fyw rhai o brofiadau John Jones, ymunodd Meinir â’r llong hwyliau Lord Nelson ar fordaith wyth niwrnod o amgylch ynysoedd y Caneri.

Yn rhan o griw abl ac anabl cafodd brofiadau hynod ddifyr, gan ddringo’r mast a chadw gwyliadwriaeth y nos. Profiadau a ddaeth a hi ychydig yn nes at yr hyn a brofodd ei hynafiaid.

WI

THE monthly meeting held on Thursday, 3 October, at the Ala Road Chapel vestry was chaired by Daphne Jones in the absence of the president, Elinor Rhys Williams.

Daphne introduced and welcomed the guest speaker, Ffion Jones of Pwyll Pistyll, who gave an interesting talk on her ambition as a young schoolgirl to run her own needlework and craft business.

After a lot of hard work and help from her family, she now has her own shop in Pwllheli.

She had brought many examples of her work with her and members were asked to purchase if wished.

The vote of thanks was given by Daphne. The tea hostesses were Betty Coles and Margaret Roberts.

The raffle prize, donated by Sharon Mears, was won by Sandra Jones.

The business part of the meeting then followed.

The next meeting will be at 7pm on 7 November at the Ala Road Chapel vestry and will be the AGM.

Capel y Drindod

DYDD Gwener, 13 Hydref: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.

Dydd Sul, 15 Hydref: 10yb a 5yh, oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.

Dydd Llun, 16 Hydref: 10yb, oedfa diolchgarwch yng ngofal Ysgol Sul yr oedolion; 6yh, oedfa diolchgarwch yng ngofal Ysgol Sul y plant a’r clwb, 6yh tan 7yh.

Dydd Mawrth, 17 Hydref: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

Dydd Mercher, 18 Hydref: 7yh, Clwb Ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]