THE latest community news from Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod
NOS FAWRTH, 3 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Aelwyd yr Hwyr.
Llywyddwyd y cyfarfod gan Morfydd Roberts.
Hi gymerodd y Gwasanaeth Dechreuol – Drws Agored Calon Agored.
Anfonwyd cyfarchion tuag at Rhian Owen a Lydian Jones.
Gwr gwadd y noson oedd y newyddiadurwr a’r darlledwr Ioan Roberts (Llwynhudol.)
Cafwyd amlinelliad o’i fywyd.
Ei ddechrau yn ifanc gyda y Cymro.
Soniodd am gyd-weithio gyda “Os” y Cymro, Dyfed Evans.
Hefyd hanes Jones plisman a’r bom ac am gyfarfod pobol fel George Thomas a D J Williams.
Mynd yn ei flaen wedyn i fyd darlledu a Hel Straeon, cyd-weithio â Gwyn Llewelyn ac ar raglenni Almanac.
Wedyn yn annibynnol (freelance) ac ysgrifennu nifer o lyfrau.
Ddydd Llun, 9 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Aelwyd y Prynhawn.
Llywydd y cyfarfod oedd Eirlys Jones.
Hi hefyd gymerodd y defosiwn dechreuol gan ofyn bendith ar y tymor o’n blaen.
Gwraig wadd y prynhawn oedd Olwen Rhys, yn wreiddiol o Fachynlleth, ond yn awr yn byw yn Lôn Ceredigion.
Un o’r swyddi yr oedd hi wedi ei gyflawni oedd adolygu dysgu Cymraeg yn Ysgolion Cynradd Gwynedd.
Cerdded oedd byrdwn ei sgwrs.
Cerdded llwybrau Pen Llyn a llwybr yr arfordir; Mynydd Annelog, golygfa o bob man yno, hefyd llwybr Porth Llygadan.
Crwydo efo Merched y Wawr, ochr gymdeithasol ac addygiadaol i’r teithiau a siarad hefo pobl oedd wedi bod yn byw yn yr ardal.
Sôn am y gofal yr oedd ei angen, y siaced felyn iechyd a diolgelwch.
Hefyd y penwythnosau preswyl a chael cyfle i fynd ar drip i Dde Amerig – Bal Apas Boldovia.
Yr oedd yn annogi pawb i fynd i gerdded a gweld.
Capel y Drindod
DDYDD Gwener, 20 Hydref: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 22 Hydref: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Brian Wright. Ysgolion Sul fel arfer.
Llun, 23 Hydref: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.
Mawrth, 24 Hydref: 7.30yh, Y Sied.
Mercher, 25 Hydref: 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.