THE latest community news from Pwllheli

Cymdeithas y Chwiorydd - Capel Penlan

CYNHELIR ein cyfarfod dydd Llun nesaf, 6 Tachwedd, am 2yp.

Edrychwn ymlaen i gael Dr Anne Elizabeth Williams atom i sôn am ei hymchwil i hen feddyginiaethau Gwerin Cymru.

Erbyn hyn mae cyfrol ardderchog wedi ei chyhoeddi ar ei gwaith.

Mae croeso cynnes i unrhyw un i ymuno gyda ni yn ein cyfarfodydd.

Capel y Drindod

DYDD Sul, 5 Tachwedd: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth yn Ebeneser, Y Ffôr.

Dydd Llun, 6 Tachwedd: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.

Dydd Mawrth, 7 Tachwedd: 7yh, Y Sied.

Dydd Mercher, 8 Tachwedd: 7yh, Clwb Ieuenctid.

Capel Bethel

GWNAED elw o £682 tuag at gronfa’r capel mewn bore coffi llwyddiannus a gynhaliwyd yn festri Capel Penlan ddydd Mawrth.

Trefnwyd yr achlysur gan aelodau a chyfeillion yr eglwys ac agorwyd y gweithgareddau yn hynaws gan y Cyng Anwen J Davies, Boduan.

Mae’r trefnyddion yn ddiolchgar i bawb gyfrannodd, helpodd ac a gefnogodd yr achlysur.

Remembrance Sunday

A MEMORIAL service organised by the Nefyn & District British Legion Branch will be held on Sunday, 12 November at St Peter’s Church at 9.45am, followed at the cenotaph at 10.45am.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]