THE latest community news from Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod
CYNHALIWYD cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr nos Fawrth, 17 Hydref.
Llywydd y noson oedd Jane Lloyd.
Gwraig wadd y noson oedd Annwen Jones “Glasu”.
Cychwyniad y cwbl oedd ei meddwl i gael rhywbeth arbennig i groesawu gwestai i wledd briodas.
Wedi cael peiriant gwneud hufen iâ, arbrofi efo ryseitiau ac ati.
Bu’n trafeilio i Llangefni am ddwy flynedd i ddysgu y grefft a’r rheolau ac ati.
Yn 2009 y fferm yn ennill gwobr “Rheoli Tir Glas”, angen arall gyfeirio, penderfynu mynd ati i gychwyn busnes.
Dipyn o drafferth cael enw “Snowdonia Ice Cream” a phopeth yn dod i fyny.
Penderfynu ar “Glasu”, dechrau gwneud cyflenwadau i siopau ac ati.
Siop yn dod yn wag yn Mitre Terrace, rhai eisiau iddi agor siop yno.
Braidd yn betrus, ond cael cynnig rhywun i wneud y llyfrau a rhedeg y siop, dim hen waith papur, dim ond cyflenwi yr hufen iâ.
Arbrofi gyda gwahanol flas, siocled, mefus as ati.
Y busnes yn mynd o nerth i nerth.
Cafwyd paned i ddarfod o dan ofal Pat a Gwenda ynghyd â hufen iâ, blasus iawn.
Cynhaliwyd Cyfarfod o Aelwyd y Prynhawn, prynhawn Llun, 23 Hydref.
Llywydd y cyfarfod oedd Jane Lloyd.
Gwraig wadd y prynhawn oedd Eryl Williams, Y Ffôr.
Bu’n Ysgol Botwnnog ac yna’r Coleg Normal.
Roedd â chysylltiad a Chartref y Pwyliaid ers blynyddoedd lawer.
Defnydd gwreiddiol y lle oedd gan yr Awyrlu i hyfforddi.
Ym 1945-1949 ei roi yn gartref i’r Pwyliaid oedd wedi gorfod gadael eu gwlad ac na allent ddychwelyd heb wynebu erledigaeth.
Rhai o’r “baracs” gwreiddiol yn dal yno.
Yr oedd wrth gwrs anhawster iaith, lle yr oedd y boen pan yn ymweld â’r meddyg!
Cael £6,500 gan yr Polish Verterans Society, â’r nifer yn 70-75 o staff.
Yn 1998 daeth criw o’r staff a gwirfoddolwyr at eu gilydd a sefydlu Elusen Cyfeillion Cartref y Pwyliaid.
Trefnu pethau fel ffeiriau a chyngherddau.
Pwyliad ei hunain ar y pwyllgor ac wrth ei bodd yn cynorthwyo.
Gwelwyd tebygrwydd rhwng y ddwy genedl; cael ei gorthrymu, Saesneg yn ail iaith ac ati.
Y criw oedd yn gofalu am yr elusen yn mynd yn llai, pasiwyd i ddiddymu yr elusen yn 2016.
Cael ei hanes hi a’r diweddar, Bobby Lister yn mynd drwy llawr y Neuadd oedd wedi bod yn storfa!
Mae’r lle yn mynd o nerth i nerth, gobeithio cael uned “dementia” yno.
Sôn hefyd fel yr oedd y Pwyliaid wedi dioddef yn enbyd o dan y Natsiaid, rhai wedi bod yn Outfits, wedi gweld llofruddio ei teuluoedd, hefyd llawer o awyrlu y Pwyliaid yn y “Battle of Britain”.
Capel y Drindod
NOS Wener, 27 Hydref, cynhaliwyd noson agoriadal y tymor o’r Gymdeithas Ddiwylliannol.
Daeth nifer ynghyd i’r Festri Fawr i wrando a’r barti o fechgyn ieuanc o’r ardal sef Hogia Carnguwch yn ein diddori mewn cân.
O dan arweiniad Ann Williams (Llithfaen) cafwyd nifer o ddatganiadau cyfarwydd ganddynt ynghyd ag ambell unawd.
Yr oedd yn amlwg fod y bechgyn yn cael boddhad mawr o ganu fel yr oeddem ninnau aelodau’r Gymdeithas yn mwynhau pob eiliad o’u perfformiad.
Llywydd y noson oedd Catherine Hefina Jones a hithau hefyd ddiolchodd i’r parti ac i aelodau’r pwyllgor am baratoi lluniaeth i’r bechgyn.
Cynhelir y cyfarfod nesaf am 7yh nos Wener, 10 Tachwedd pryd y ceir cwmni Robert Morris, Penygroes.
Gwener, 10 Tachwedd - 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.
Sul, 12 Tachwedd - 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Euros Wyn Jones; Ysgolion Sul fel arfer.
Llun, 13 Tachwedd - 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 14 Tachwedd - 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.
Mercher, 15 Tachwedd - 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.