THE latest community news from Pwllheli

Y Gymdeithas Ddiwylliannol, Capel y Drindod

NOS Wener, 24 Tachwedd, daeth nifer dda ynghyd i gyfarfod o’r Gymdeithas a gynhaliwyd yn y festri.

Croesawodd llywydd y noson Lydia Jones, un o aelodau’r ofalaeth sef Alun Price o Abererch i sgwrsio.

Testun ei sgwrs oedd Cadeiriau Eisteddfodol.

Brodor o Ddolwyddelan yw Alun yn wreiddiol ac yr oedd wedi ymddiddori ac ymchwilio yn fanwl i hanes enillwyr barddol cadeiriau Eisteddfod Dolwyddelan yn y cyfnod 1923-30.

Daeth a dwy gadair fawr wedi eu cerfio’n grefftus i arddangos.

Diolchwyd am noson ddiddorol gan T O Williams.

Nos Wener, 8 Tachwedd, cynhaliwyd noson Nadoligaidd y Gymdeithas a gynhelir y flynyddol.

Trefnwyd gwasanaeth o ddarlleniadau ac eitemau cerddorol gan ddwy aelod o’r Gymdeithas eleni sef Mari Ifans ac Enid Roberts.

Cafwyd cyfraniadau ganddynt ynghyd â hanner dwsin o ferched o’r capel.

Caed cyfle i ganu carolau adnabyddus gan yr aelodau i gyfeiliant Morfydd W Roberts a Griff T Owen.

Diolchwyd am noson fendithiol gan y Gweinidog.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Wener, 26 Ionawr.

Aelwyd Chwiorydd,

Capel y Drindod

DDYDD Llun, 4 Rhagfyr, fe fwynhaodd yr aelwydydd, brynhawn allan yng Nghanolfan Garddio Tyddyn Sachau.

Cyrraedd tua 2yp a mwynhau paned a theisen.

Cynhaliwyd cyfarfod busnes byr lle penderfynwyd rhoi rhodd i Corwynt Cariad, ac i’r capel.

Gan gydnabod cyfraniad bois y shed efo’r byrddau adar.

Yna allan i’r ganolfan arddio, lle’r oedd pob math o blanhigion, addurniadau Nadolig ac anghenion garddio ar gael.

Cafodd y merched gyfle i wneud ychydig o siopa Nadolig.

Fe fydd y gwyr yn brysur yn plannu.

Capel y Drindod

SUL, 24 Rhagfyr - 10yb, Oedfa’r Nadolig yng ngofal y Cwmni Drama; 5yh, Oedfa’r Nadolig yng ngofal Aelwyd y Chwiorydd.

Llun, 25 Rhagfyr - 10yb, Oedfa Undebol i’r Dref yn y Drindod.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]