THE latest community news from Pwllheli

Aelwyd Chwiorydd – Capel y Drindod

DYDD Mawrth, 16 Ionawr cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr.

Llywydd y noson oedd Gwyneth Sol Owen.

Anfonwyd cyfarchion at Lydia Jones, Jean Williams a Mair Williams, Ffordd Caernarfon.

Yr oedd y gwasanaeth dechreuol yng ngofal Morfydd Roberts – un o gerddi John Gwilym Jones.

Yna croesawyd gwraig wadd y noson, sef Meinir Pierce Jones, curadur Amgueddfa Morwrol Nefyn.

Bu’n sôn am ynysoedd y “Caneries” ac R Lloyd Hughes, hefyd am Gapten John Jones, oedd yn perthyn iddi.

Diolchwyd iddi am noson ddiddorol iawn gan Enid Roberts.

Prynhawn Llun, 22 Ionawr cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y Prynhawn. Llywydd y cyfarfod oedd Jane Lloyd.

Hi hefyd gymerodd y defosiwn dechreuol – Lili Wen fach, gan fod y blodau hardd wedi dechrau ymddangos.

Merched y Wawr

MARI Evans fu’n llywyddu a chyfeilio yng nghyfarfod mis Chwefror o gangen y dref.

Anfonwyd cofion at Margaret Gruffydd a Mair Williams, ac at Lydia Jones yn ei phrofedigaeth o golli Evan ei gwr.

Da oedd gweld Eirlys Williams yn ôl wedi gwaeledd.

Diolchwyd i’r aelodau fu’n siarad â’r dysgwyr yn yr Ysgol Undydd ddiwedd Ionawr.

Bydd Gwyl Wanwyn Rhanbarth Dwyfor yn Neuadd Sarn Mellteyrn ar 14 Ebrill, Cinio’r Llywydd Cenedlaethol yng Ngwesty Meifod ar 21 Ebrill, a Gwyl y Pum Rhanbarth ym Mangor ar 12 Mai.

Wrth gyflwyno Marilyn Adams, o Chwilog, llongyfarchodd y llywydd hi am ei gwaith gwirfoddol yn casglu miloedd o bunnau at elusennau ac achosion da.

Darllenodd Marilyn amrywiaeth o storïau byrion yn darlunio digwyddiadau doniol ddigwyddodd iddi hi a’i ffrindiau mewn gwahanol sefyllfaoedd, y rhan fwyaf ohonynt ar wyliau ar Ynys Enlli.

Canodd ambell gân gyda chymorth Carys Jones a Mair Hughes.

Diolchwyd iddynt ac i’r merched fu’n paratoi paned gan y llywydd.

Enillydd y raffl oedd Menna Jones.

Bydd y gangen yn dathlu pen-blwydd yn 50 oed ar 1 Mawrth, yng nghwmni Triawd Llanrug ac aelodau Cangen Efailnewydd a Llannor.

Capel y Drindod

GWENER, 9 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.

Sul, 11 Chwefror: 10yb, Oedfa yng ngofal y Parch Ron Rees; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Oedfa yng ngofal y Parch Dewi Morris.

Llun, 12 Chwefror: 7.30yh, Seiat yr Ofalaeth.

Mawrth, 13 Chwefror: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

Clwb y Bont

WIL Aaron, Llandwrog oedd y gwr gwadd ar 5 Chwefror.

Yn berson amryddawn fu’n gweithio i’r BBC yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru a sefydlu Ffilmiau’r Nant.

Testun ei sgwrs oedd ‘Poeri i lygad yr eliffant’ sef hanes yr ymfudiad ar draws yr Amerig yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg.

Canolbwyntiodd ar hanes y Mormoniaid Cymraeg, rhwng pedair a phum mil ohonynt a wynebodd holl beryglon y paith i gyrraedd Dinas y Llyn Halen yn unol â’u crefydd.

Gadawsant ddyddiaduron yn cofnodi eu hymdrechion eu colledion a’u dyfalbarhad rhyfeddol ac fe beru y coffa amdanynt yn Nhalaith Utah hyd heddiw.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]