THE latest community news from Pwllheli

Capel y Drindod

DYDD Gwener, 16 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.

Sul, 18 Chwefror: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.

Llun, 19 Chwefror: 10.30yb, Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel y Drindod; 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant.

Mawrth, 20 Chwefror: 7yh, Y Sied.

Mercher, 21 Chwefror: 7yh, Clwb Ieuenctid.

WI

THE meeting on Tuesday, 6 February, was chaired by the president, Daphne Jones.

Daphne introduced and welcomed the guest speaker, Lorna Wyn, who gave a very interesting and informative talk on ‘Jewellery design’.

She gave an insight on how her interest in jewellery design first started and how her business progressed from there.

Lorna had brought along a display of her craft which the members were able to examine and purchase if they wished.

The vote of thanks was given by Maureen Jones.

The tea hostesses were Betty Coles and Pam Pritchard.

The raffle prize given by Maureen Jones was won by Sharon Mears.

The business part of the meeting then followed with matters arising discussed.

It has been decided to arrange a book club, a craft meeting and dance and activity lessons so a busy time ahead.

The next meeting will be on Tuesday, 6 March, at 7pm at Ala Road Chapel Vestry when a speaker from the Hedd Wynn Museum will give a talk.

New members always welcome.

Cyngor Tref

AR ddechrau’r cyfarfod cyfeiriwyd at farwolaeth Evan Jones, Ceidwad y Prysgyll fore Sadwrn, 13 lonawr a bu i’r aelodau yn ei ffordd arferol, godi mewn munud o dawelwch i gydymdeimlo â’i briod a’r teulu i gyd.

Ar bwnc yr Harbwr Mewnol, derbyniwyd ymateb oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru yn egluro fod gwaith sylweddol wedi ei wneud yn ystod 2014/15 lle gwnaed gwaith ar leihau’r gwely cors, carthu rhan o afon Rhydhir i gynyddu’r gallu i lifo a hefyd cynnal gwaith a’r sefydlogi’r clawdd Cob Bach.

Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2017 cynhaliwyd gwaith islaw’r afon o Bont Solomon eto i gynyddu llif o fewn yr afon gan dorri brigau coed ar hyd banciau’r sianel.

Mae gwaith pellach wedi ei raglennu ar gyfer mis Mawrth cyn y tymor nythu fydd yn cynnwys cynnal a chadw’r arglawdd a waliau llifogydd o fewn yr Harbwr.

Penderfyniad y Cyngor oedd: Cyfeiriwyd at y syniad o gynnwys y Warchodfa mewn cynllun i greu morlynnoedd llanw mewn cyfarfod o’r Cyngor ym mis Rhagfyr, ar y pryd gofynnwyd am fwy o fanylion, ond hyd yma nid oes unrhyw ymateb wedi ei dderbyn felly dilyn y mater i fyny.

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd yn egluro ei bod wedi cael llwyddiant i ddenu arian o dan Ddeddf Teithio lesol i wella diogelwch a chysylltiadau o amgylch Ysgol Cymerau.

Atodir copi bras o’r llwybrau sydd dan sylw yw gwella. Anelir at gychwyn y gwaith ddechrau mis Chwefror a’i gwblhau cyn diwedd Mawrth

Derbyniwyd lythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg sy’n dweud fod y Post Brenhinol yn cadarnhau mai nhw sydd yn gyfrifol am gynnal y ffeil Cyfeiriadu Post a bod y data a ddefnyddir yn cael ei gyflenwi gan Gyngor Gwynedd. Noda’r Post Brenhinol fod y Cyngor wedi darparu enwau strydoedd yn Gymraeg a Saesneg i Bwllheli. Ac mae yn cadarnhau nad yw’r enwau Saesneg wedi ei diddymu oddi ar y ffeil. Er mwyn gwneud hynny bydd rhaid iddynt dderbyn hysbysiad ffurfiol gan Gyngor Gwynedd.

Penderfynodd y cyngor i anfon copi o lythyr y Comisiynydd y Gymraeg i Gyngor Gwynedd a gofyn iddynt drefnu i ddileu’r enwau Saesneg a defnyddio’r Gymraeg yn unig

Mae cyngor wedi rhoi arian i ddau grwp y mis yma: £100 i Dawns i Bawb a £100 i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Y cyngor wedi dewis is-pwyllgor i ddelio efo toiledau cyhoeddus.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn gwahodd sylwadau ynghylch canllawiau statudol drafft i helpu Awdurdodau Lleol i fodloni gofynion a nodir yn Adran 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru 2017).

O dan y ddeddfwriaeth hon gofynnir i Awdurdodau Lleol yng Nghymru baratoi strategaeth ar gyfer ei ardal ac wedyn ymgynghori arni cyn ei chyhoeddi.

Penderfyniad: Ethol is-bwyllgor i gyfarfod i fynd trwy’r ddogfen

Aelodau’r is-bwyllgor fydd y dirprwy faer, Cyng M Sol Owen, Hefin Underwood, Elfed Gruffydd ac Elin Hywel.

Derbyniwyd llythyr a dogfen drwchus oddi wrth Gyngor lechyd Gogledd Cymru yn tynnu sylw i broblemau recriwtio Meddygon Teulu. Mae’r trefniadau presennol yn creu rhwystr wrth recriwtio ar adeg pan mae meddygfeydd yn cau, mae yn bwysig felly ymateb i’r ymgynghoriad yma a gwelir cyngor ar wahanol opsiynau.

Penderfynodd y cyngor i basio’r mater i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi mwy o gyfle i’r aelodau ei astudio.

Tynnwyd sylw i gyflwr yr hen ‘durnstile’ sydd yn rhan o hanes Pêl-droed y Dref, mai ei gyflwr bellach yn bur fregus ac angen sylw brys.

Bydd y cyngor dref yn gofyn i Gyngor Gwynedd am amcan bris o’i uwchraddio ac adrodd y byddai’r Cyngor Tref yn fodlon ystyried cyfraniad at y gost.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]