THE latest community news from Pwllheli
Merched y Wawr
RHIANNON Hughes oedd llywydd mis Ebrill o’r gangen leol a Mari Evans fu’n cyfeilio.
Cydymdeimlwyd â Christine Jones, yr ysgrifenyddes, ar golli ei chwaer yn ddiweddar.
Rhiannon Parry o Benygroes oedd y wraig wadd a’i thestun oedd ‘Llysiau Llesol’.
Dangosodd y wermod wen, saets, teim a phersli gan dynnu sylw at eu rhinweddau a darllen dyfyniadau am eu rhagoriaethau o Lyfr Llysiau William Salesbury, gan Iwan Edgar a Llyfr Llysiau Ann Jenkins.
Diolchodd y llywydd iddi am gyflwyniad difyr gan ganmol y meddyginiaethau.
Diolchodd hefyd i Lydia Jones, Jean Jones, Mari Evans a Mair Williams am baratoi’r baned.
Bydd Christine yn trefnu taith min nos dan arweiniad Emrys Llywelyn o gwmpas Caernarfon a swper yng Ngwesty’r Celt ar 7 Mehefin.
Os oes unrhyw rai â diddordeb cysylltwch â’r ysgrifennydd ar rif ffôn Pwllheli 614180.
Clwb y Bont
YNG nghyfarfod olaf y tymor dan lywyddiaeth Alun Jones, aelod o’r clwb fu’n annerch.
Aeth y Parch Arthur Meirion â ni o’i gyfnod yn Kuwait a’r ffiniau a groesodd ac a fethodd eu croesi yno, at y ffiniau mae miloedd yn gorfod eu croesi heddiw ar draws y byd.
Ym Mangor pan yn paratoi i’r weinidogaeth, aeth i angladd un o’i arwyr mawr, R Williams Parry ym Mynwent Coetmor.
Yno gwelodd y bardd mawr arall hwnnw T H Parry Williams, a bu’n pendroni am y ffiniau tragwyddol hynny y bydd yn rhaid i bawb eu hwynebu yn y pen draw.
Capel y Drindod
GWENER, 20 Ebrill - 10yb Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 22 Ebrill - 10yb Oedfa yng ngofal y Parch Olwen Williams. 2yp Ysgol Sul yr Oedolion; 5yh Oedfa yng ngofal y Parch Morris P Morris.
Llun, 23 Ebrill - 6yh Clwb y Plant; 7.30yh Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.
Mercher, 25 Ebrill - 7yh Clwb Ieuenctid.
Capel Seion
DYDD Sul, 22 Ebrill: 10yb Parch Ron Rees, Botwnnog.
WI
THE meeting on 10 April was chaired by president Daphne Jones.
Daphne welcomed the speaker, Sharon Mears, who is a member of Pwllheli WI.
Sharon and her husband Vincent live at the Treddafydd Organic farm at Llithfaen where they run their organic farm produce business.
They began by having advice from ‘Cywain’ as to the correct way of getting their business started.
They started with 12 hens and now have 200 organic hens.
They grow all their own fruit and have 40 different crops on six acres of land.
They sell their produce at local farm shops and markets etc.
Sharon brought with her samples of her produce such as jams, preserves, chutneys, relish etc.
The members were able to sample the produce on crackers supplied by Sharon.
The vote of thanks was given by Maureen Jones.
The tea hostesses were Janet Owen and Maureen Jones.
The raffle prize given by Sylvia Williams was won by Ann Owen.
The business part of the meeting then followed with matters arising discussed and dealt with.
Details on the summer trip on 28 June will soon be finalised.
The next meeting will be on Tuesday, 8 May, at 7pm at the Ala Road Chapel Vestry.
There will be a visit by a WI advisor to discuss the ‘Resolutions’ for the AGM followed by a short quiz.
New members always welcome.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.