THE latest community news from Rhydyfelin

Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog

LOWRI Jones, Mererid Jones ac Efan Williams leisiodd farn ar bynciau amrywiol yn y seiat holi yn festri Gosen ar 8 Ionawr.

Detholwyd y cwestiynau ac arweiniwyd y drafodaeth yn fedrus gan Dafydd Morris.

Clywodd aelodau’r gynulleidfa am afocado, Connemara a that?s wrth wrando ar draethu ffraeth a llithrig y panelwyr.

Camwyd i fyd gwaith cyflogedig y siaradwyr a chyfeiriwyd at ddylanwad y cartref a’r gymuned ar benderfyniadau ers yr arddegau.

Trwy gyfrwng sylwadau a safbwyntiau ar destunau fel datblygu stadau o dai, cyflwynwyd cipluniau i’r gwrandawyr o fywyd heddiw yn Llannon, Lledrod a Phontsian.

Yr hyn a bwysleisiwyd yn gyson gan y triawd oedd pwysigrwydd y diwylliant cynhenid, y teimlad o berthyn i fro a chyfrannu i weithgareddau ardal.

Daliadau gobeithiol fynegwyd gan y panelwyr er yn cydnabod y newidiadau dirfawr yng nghefn gwlad Ceredigion.

Ystyriwyd hefyd y gofynion o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Tregaron a’r weledigaeth o leoli’r ?yl ym Mae Caerdydd llynedd.

Brwd oedd ymateb y siaradwyr i gwestiynau am ffordd o fyw cigwrthodwyr a dyfodol papurau bro yn ogystal â phapurau newydd dyddiol yn yr oes ddigidol.

Talwyd y diolchiadau gan Beti Wyn Emanuel, cadeirydd y gymdeithas.

Wedi’r holi a stilio, cafwyd cyfle i sgwrsio a hefyd brofi’r arlwy helaeth.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]