THE latest community news from Rhydyfelin

Seiat Holi

ANWEN Jones, John Meredith ac Eirwen Williams gafodd y cyfle i ddweud eu barn mewn Seiat Holi yn Festri Gosen a drefnwyd gan Gymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog.

Cafwyd cwestiynau yn ymwneud â byd amaeth ac ystyriwyd yn benodol y bwriad i adael yr Undeb Ewropeaidd a chymorthdaliadau. Er bod ansicrwydd yn air cyson, lleisiwyd nodau gobeithiol hefyd.

Cyfeiriwyd at ddawn ffermwyr i feithrin syniadau newydd a’r ymdrechion a wneir i hwyluso cydweithio ymysg cynhyrchwyr llaeth Cymru.

Ysgogodd cwestiwn am y budd o fynd i brifysgol ymateb brwd. Mae Anwen Jones yn gweithio yn y brifysgol yn Aberystwyth. Difyr oedd y sylwadau treiddgar a leisiodd o lygad y ffynnon. Soniodd am werth addysg bellach, cymhellion darpar fyfyrwyr a’r grefft o ddysgu byw.

Rhoddwyd sylw i’r hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru. Awgrymwyd yn gynnil bod nifer o Gymry heb gydnabod rhai o’r mesurau blaengar a gyflwynwyd ym maes iechyd a lleihau’r nifer o gydau plastig.

Ymwelodd y panelwyr hefyd â byd y ffydd Gristnogol, y Gweplyfr (Facebook) a’r robot.

Brinley Davies oedd cadeirydd y seiat a thalwyd y diolchiadau gan y Parch Nicholas Bee.

Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i sgwrsio â chyfeillion o Gymdeithas Carmel, Llanilar wedi’r holi a’r ateb tra’n profi’r arlwy helaeth.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]