THE latest community news from Sarn.
Sefydliad y Merched
HYFRYD oedd cael cwmni Mrs Elinor Rhys Williams, Penrhos yn ei swydd fel ymgynghorydd gwirfoddol y Sir yng Nghyfarfod Blynyddol y gangen nos Lun, 5 Rhagfyr. Croesawyd hi a’r aelodau gan y llywydd, Rene Evans. Etholwyd swyddogion ar gyfer y flwyddyn i ddod fel a ganlyn: llywydd, Rene Evans; is-lywydd, Jill Hall; ysgrifennydd, Mari Davies; trysorydd, Lowri Richards; ysgrifennydd y wasg, Carol Thomas.
Diolchodd y llywydd i bawb am eu presenoldeb a’u cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn a chyflwynwyd adroddiad o weithgareddau 2016 gan yr ysgrifennydd â’r fantolen ariannol gan y trysorydd.Yn ei hanerchiad, llongyfarchodd Rhys Williams y gangen am flwyddyn lwyddianus iawn.Gofalwyd am y baned ar ddiwedd y cyfarfod gan gan Ceinwen Chidley a Betty Richards, ac enillwyd gwobr y raffl gan Glenys Williams. Diolchwyd i bawb gan Rene Evans a ddywedodd ei bod yn edrych ymlaen at y Cinio Nadolig ar y nos Wener canlynol.Bydd cyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd ar nos Lun, 9 Ionawr, ac edrychir ymlaen i gymryd rhan mewn gêm Boccia dan ofal Carol Thomas.
Mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â’r gangen.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.