THE latest community news from Sarn

Merched Sarn

YNG nghyfarfod mis Ionawr croesawodd y llywydd Rene Evans yr aelodau yn ôl wedi’r Nadolig.

Pleser oedd croesawu dwy aelod newydd i’r gangen hefyd, sef Gwyneth Evans a Shirley Ellis.

Yn anffodus oherwydd gwaeledd nid oedd y siaradwr gwadd o Llaethdy Llyn yn gallu bod yn bresennol.

O ganlyniad cafwyd noson gartrefol ymysg ein gilydd yn trafod y rhaglen am y flwyddyn i ddod a thalu tâl aelodaeth.

Diolchwyd i Carol am ddarparu y te a’r raffl.

Enillwyd y raffl gan Shirley Ellis.

Ar 5 Chwefror, aethant i ymweld a Becws Aberdaron.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]