THE latest community news from Sarn

Sefydliad y Merched

CYNHALIWYD cyfarfod blynyddol Sefydliad y Merched Grwp Llyn yn festri Capel Ffordd yr Ala ar 28 Chwefror.

Adroddiad Glenys yn ôl i’r aelodau eraill yn dilyn y cyfarfod.

• Cafodd Margaret Lloyd Jones ei llongyfarch am gael ei dewis fel cadeirydd y ffederasiwn.

• Diolchwyd i aelodau Sefydiad y Merched Sarn am p’nawn te a mefys yn Neuadd Sarn.

• Eleni bydd rhodd o £50 i’r gangen fydd wedi derbyn y nifer uchaf o aelodau’n ystod y flwyddyn.

• Derbyniwyd adroddiad a mantolen yn dangos derbyniadau a thaliadau am y cyfnod yn diweddaru 31 Ionawr 2018 gan y Trysorydd Wenda Bryn Williams.

• Cangen Abersoch a changen Aberdaron oedd y ddwy gangen lwcus yn derbyn bwrsori o £200 yr un eleni. Penderfynwyd yn y cyfarfod fod £200 yn cael ei roi i’r Ffederasiwn a £100 i goleg Denman.

Dewiswyd dyddiadau a lleoliadau ar gyfer gweithgareddau Rhaglen 2018 - 2019 (copïau i ddilyn i’r aelodau).

Ar 5 Mawrth aeth aelodau’r sefydliad i Gegin Grug, Botwnnog am wledd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi Sant.

Cawsom sgwrs ar ddechrau’r noson gan Heather Griffith sy’n rhedeg y busnes arlwyo allanol o’r adeilad yng Nghongol Meinciau, Botwnnog.

Mae’n fusnes prysur iawn yn darparu bwffe, te prynhawn a bwyd poeth i’w danfon i gartrefi.

Maent hefyd yn darparu bwyd a gwasanaeth arlwyo ar gyfer priodasau.

Cawsom flas i ddechrau ar ddanteithion mae Heather yn ei werthu yn y siop deli sef focaccia, bara garlleg a bara ‘sour dough’. Maent yn pobi’r bwyd eu hunain ym Motwnnog.

Yna cawsom arddangosfa sydyn gan Heather o’r pwdin a sut fuasem ni’n ei greu adref - meringue efo hufen lemon a hefyd cacenau afal bach efo saws caramel.

Mae yna fyrddau a chadeiriau yn y siop deli a bwydlen ar gyfer prydau bach i ginio.

Carol roddodd y raffl heno ac fe’i enillwyd gan Sue Soar.

Diolchodd Rene i Heather.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]