THE latest community news from Soar Y Mynydd
Capel Soar y Mynydd
PRYNHAWN bythgofiadwy arall yn Soar y Mynydd y Sul diwethaf. Er y tywydd gwlyb daeth cynulleidfa luosog i wrando ar Parch Rob Nicholls, Llundain a chawsom gwasanaeth bendithiol iawn ganddo.
Pleser oedd cael unawd gan Rhian Thomas, Brynaman a chafodd ei chyfeilio gan Catrin Hughes, Llanelli.
Diolch i bawb a ddaeth i wneud yr oedfa yn un arbennig ac am y canu dyrchafol. Gwnaed y croesawu gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Mair Richards, Llanddewi Brefi.
Disgwylir y Parch Carwyn Arthur, Tregaron i wasanaethu’r Sul nesaf am 2yp. Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.