THE latest community news from Synod Inn
Merched y Wawr
DECHREUWYD tymor yr hydref Cangen y Bryniau ar nos Iau, 13 Medi, pan ddaeth dwy o gysylltwyr cymunedol Porth y Gymuned i siarad gyda ni.
Cawsom noson ddiddorol yng nghwmni Enfys James a Carys Owen gan ddysgu llawer am yr adnodd newydd yma gan Gyngor Sir Ceredigion.
Esboniwyd eu bod yn gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r rhai sydd angen yn y sir, beth bynnag yw’r oedran a’r cefndir.
Trefnwyd y noson gan Mineira a Dilwen ac enillwyd y raffl gan Sally.
Mae rhaglen ddiddorol wedi’i baratoi ar gyfer y flwyddyn ac mae croeso i holl ferched yr ardal i ymuno gyda ni!
Byddwn yn cwrdd nesaf ar nos Iau, 11 Hydref, pan fydd Caryl Glyn o siop Glanmôr, Aberaeron yn dod atom i Neuadd Caerwedros.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.