THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

NI fydd oedfa yn y capel ddydd Sul nesaf gan fod Gwasanaeth Undebol yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 2yp yng nghwmni y Parch Wyn Thomas. Mae’r oedfa hon wedi dod yn un flynyddol, gyda mefus a hufen yn cael ei weini i bawb a fydd yn bresennol am £3 y pen. Croeso i bawb i’r capel hanesyddol hwn.

Cynhelir y gwasanaeth nesaf ym Mwlch y Fadfa ar 24 Mehefin am 3yp gyda’n gweinidog yn gwasanaethu.

Diwrnod Agored

DDYDD Sadwrn diwethaf cynhaliwyd Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hen Bethau Ger y Nant i godi arian tuag at Ymchwil Cancr. Nid oedd tâl mynediad, ond roedd yno raffl a chyfraniadau tuag at yr achos da hwn.

Os oeddech wedi methu mynd ac am gefnogi yn ariannol, cysylltwch â Pete Newill yn Ger y Nant mor fuan â phosib.

Gwyl y Pentref

ELENI cynhelir Gwyl y Pentref ar nos Wener, 29 Mehefin gyda Helfa Drysor ar droed a’r Carnifal ar y dydd Sadwrn. Llywyddion yr wyl fydd Mr a Mrs Jones, Fferm Rhydowen Fach.

Thema’r fflôt fydd ‘Yr Ysgol’. Yn dilyn y Carnifal a’r Mabolgampau bydd Ras Sion Cwilt a bydd Rownderi a’r Barbeciw yn dilyn y ras fawr. Dewch yn llu am benwythnos o hwyl a sbri.

Capel Penrhiw

DDYDD Sul diwethaf roedd rhai o aelodau capeli’r Smotyn Du, dan arweiniad Dylan Iorwerth, yn gwneud cyflwyniad yn y capel lawr yn Amgueddfa Sain Fagan.

Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal i nodi 150 ers etholiad cyffredinol hanesyddol 1868, a’i ddylanwad pellgyrhaeddol ar gymuned yn ne Ceredigion.

Yn 1876, cafodd cynulleidfa Capel Undodaidd Llwynrhydowen a’u gweinidog William Thomas (Gwilym Marles) eu troi allan o’u capel gan eu tirfeddiannwr. Roedd hynny’n ganlyniad i raddau helaeth i ymgyrchu rhyddfrydol Gwilym Marles, a gododd wrychyn John Lloyd o Alltyrodyn.

I ddial am hynny, pan ddaeth les y capel i ben, gafodd y gynulleidfa eu cloi allan o’r capel gan y tirfeddiannwr, a bu’n rhaid i’r addolwyr chwilio am gartref newydd.

Cafodd y gwasanaeth yng Nghapel Undodaidd Penrhiw ei drefnu er mwyn nodi trobwynt pwysig etholiad 1868 yn y cyd-destun hanesyddol hwnnw; roedd yn “gyfuniad o wasanaeth traddodiadol a chyflwyniad”, lle’r oedd gofyn i’r gynulleidfa “ddychmygu eu bod nhw nôl yn Llwynrhydowen” yn ystod y cyfnod dan sylw. “Collodd 43 o deuluoedd eu ffermydd yng Ngheredigion yn y cyfnod hwn, a 26 yn Sir Gâr,” meddai Mr Iorwerth. Roedd yr oedfa arbennig hon yn un yw chofio.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]