THE latest community news from Talgarreg

Canu Gwlad

NOS Sadwrn diwethaf roedd Clive Edwards yn ôl yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon drwy wahoddiad Hefin a Megan. Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.

Gwyl y Pentref

CYNHALIWYD Gwyl y Pentref a chafwyd penwythnos yn llawn hwyl, gyda’r tywydd bendigedig â phawb ym mwynhau gwylio’r tasgau amrywiol oedd ar gael i ddiddanu pawb o bob oedran.

Ysgol Gynradd

NOS Fercher cynhelir Taith Gerdded Noddedig o gartref Sarnicol i gartref Dewi Emrys, taith o ryw dair milltir.

Pawb i gwrdd ar sgwâr Alltmaen am 5yh. Ar ddiwedd y daith bydd croeso i bawb archebu swper yn Glanyrafon.

Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at brynu iPads newydd i blant yr ysgol leol.

Os nad ydych am gerdded, cofiwch gefnogi unrhyw un sydd am fynd ar y daith

Taith Gerdded

AR ddydd Sul bydd aelodau capeli’r Smotyn Du yn cymryd rhan yn eu taith gerdded noddedig flynyddol.

Bydd y daith eleni yn dechrau yng Nghapel y Fadfa ac yn gorffen yng Nghapel Llwynrhydowen. Y cerdded yn dechrau am 1.30yp.

Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at hyrwyddo priodas gyfartal a gwaith yr elusen Mind Cymru.

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa nesaf ddydd Sul, 15 Gorffennaf, am 10.30yb gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]