THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
BYDD yr oedfa ddydd Sul am 10.30yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.
Ysgol Gynradd
NOS Fercher ddiwethaf cynhaliwyd Taith Gerdded Noddedig o gartref Sarnicol i gartref Dewi Emrys yn y pentref, taith o ryw dair milltir.
Roedd pawb wedi cwrdd ar sgwâr Alltmaen am 5yh i ddechrau cerdded.
Ar ddiwedd y daith bu croeso i bawb archebu swper yn Glanyrafon.
Bydd yr holl arian a godwyd yn mynd tuag at brynu Padiau I Dot newydd i blant yr ysgol leol.
Taith Gerdded
DDYDD Sul bu rhai o aelodau capeli’r Smotyn Du yn cymryd rhan yn eu taith gerdded noddedig flynyddol.
Roedd y daith eleni yn dechrau yng Nghapel y Fadfa ac yn gorffen yng Nghapel Llwynrhydowen. Taith o ychydig dros dair milltir.
Gwnaeth y cerdded ddechrau am 1.30yp a bydd yr arian a godir yn mynd tuag at hyrwyddo priodas gyfartal a gwaith yr elusen MIND Cymru.
Hyfryd oedd gweld criw lluosog yn cerdded ag arian sylweddol yn cael ei godi.
Rhaid cydnabod yn ddiolchgar y ceir oedd yn cyrchu dwr ar gyfer y cerddwyr a diolch arbennig i’r merched a oedd wedi paratoi’r te ar gyfer y cerddwr yn Festri Llwyn ar ddiwedd y daith.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.