THE latest community news from Talgarreg
Miri Medi
NOS Sadwrn cynhelir Miri Medi yn y neuadd am 6.30yh.
Cyfle i gael pryd o fwyd a chymdeithasu ac i wrando ar adloniant arbennig gan Catrin Henbant a’r criw.
Os ydych am docynnau cysylltwch gydag aelod o bwyllgor y neuadd.
Sioe
DDYDD Sadwrn, 15 Medi, cynhelir y sioe flynyddol ar gae Coed Fadre, drwy garedigrwydd Iwan Evans.
Digon o gystadlaethau a chyfle i weld hen beiriannau.
Capel Y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gweinyddu’r cymun.
Cynhelir yr oedfa ddydd Sul, 16 Medi am 3yp yng nghwmni’n gweinidog.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





1.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.