THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 3yp yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas a chafwyd gwasanaeth hwylus a neges amserol. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Cynhelir ein Cwrdd Ddiolchgarwch ddydd Sul am 1.30yp pan fydd y Parch Cen Llwyd yn ein harwain mewn gwasanaeth.
Neuadd Goffa
YN ddiweddar cynhaliwyd Miri Medi, dan nawdd pwyllgor y Neuadd Goffa. Cafwyd ras beli a’r enillydd oedd Aled Whitfield, Castell y Wiwer.
Yn dilyn cafwyd pryd dau gwrs ac adloniant arbennig a thalentog gan griw Clwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros, o dan arweiniad Catrin Evans, Henbant.
Bore coffi
CYNHELIR bore coffi er budd gwaith MacMillan yn y Neuadd Goffa fore Gwener am 9.30yb tan 12yp. Mae pawb yn gwybod am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan yr elusen bwysig hon, cofiwch gefnogi os gwelwch yn dda.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.