THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa fore Sul diwethaf am 10.30yb yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Gwnaed y casgliad gan Mari, gyda Carol Rees wrth yr organ.

Cofiodd y gweinidog am Mair Davies, Frondes, sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 4 Tachwedd, am 3yp gyda’n gweinidog yn rhannu’r Cymun unwaith eto.

Prifardd Dewi Emrys

HYFRYD oedd cael y cyfle i wrando unwaith eto ar raglen yn canolbwyntio ar y Prifardd Dewi Emrys ar Radio Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Roedd sawl llais cyfarwydd iawn arall i’w glywed hefyd wrth iddynt sôn am y Bwthyn a Chapel Pisgah a llefydd eraill o ddiddordeb yn yr ardal.

Roedd sawl gwên a chwerthin ar gael wrth glywed am storïau Dewi amser oedd yn mynd i bysgota ac yn chwilio am blu i ddal y pysgod.

Llyfr newydd

NOS Fercher am 7yh yn y Neuadd Goffa bydd y Parch Cen Llwyd, T?’r Ysgol, yn lansio ei llyfr newydd.

Teitl y llyfr yw Munud i Feddwl, sef casgliad mae Cen wedi roi mewn llyfr o fyfyrdodau mae wedi ddefnyddio ar Radio Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn cymryd rhan fydd Helen a Gwenllian Llwyd, Einir Ryder a Teleri Morris Thomas a fydd yn darllen rhai o’r myfyrdodau.

Bydd paned ar gael.

C?n hela

FORE Sadwrn diwethaf roedd yn bictiwr hyfryd i weld dros 40 o geffylau o bob lliw a maint gerllaw Tafarn Glanyrafon, rhain wedi dod i ddilyn helwyr Llanwnnen yn eu cotiau cochion.

Cafwyd rhai oriau bendigedig yn marchogaeth y wlad o gwmpas y pentref.

Torri’r borfa

DDYDD Sadwrn am 1yp bydd aelodau Capel y Fadfa yn dod at ei gilydd i dorri’r borfa a thacluso o gwmpas y capel a’r fynwent.

Ffair Nadolig

CYNHELIR Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa ar nos Wener, 9 Tachwedd, o 4.30yp ymlaen, gyda’r holl elw yn mynd tuag at yr Ysgol Feithrin a’r Ysgol Gynradd.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn nesaf bydd Clive Edwards yn ôl yn canu yn Nhafarn Glanyrafon, ar wahoddiad Hefin a Megan.

Mae Clive yn boblogaidd iawn ym mhob cwr o’r wlad am ei ganu hwylus a’i jôcs ffraeth.

Medrwch archebu bwyd ar y noson hefyd.

Bydd holl elw’r digwyddiad yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]