THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r Cymun.
Cafwyd neges amserol yn nodi am i ni beidio â phoeni am bethau bychan cyffredin ac i estyn llaw i eraill pan fo’r galw.
Fe gydymdeimlodd y gweinidog â Dewi ac Elin a’r teulu oll yn eu galar a’u colled.
I ddilyn cynhaliwyd pwyllgor yr eisteddfod, i drefnu’r digwyddiad blynyddol hwn.
Fore Mercher am 9.15yb bydd Barbara Davies, Dolgarreg ar y teledu yn cymryd rhan mewn rhaglen ddogfen ar BBC 1 o’r enw ‘Front Line Heroes’ a gyflwynir gan Tanni Grey-Thompson. Cofiwch wylio’r rhaglen ddiddorol hon am un o’n haelodau ffyddlon.
Erbyn hyn mae tocynnau ar werth ar gyfer ein Noson Caws a Gwin yng nghwmni Bois y Gilfach ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd am 7yh. Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle o Drefenter.
Bydd y gyngerdd yn un arbennig iawn, gan fydd y bechgyn yn perfformio eu caneuon arferol mewn un hanner ac yn cyflwyno fersiwn fyrrach o Noson Jacob a berfformiwyd yn Theatr Felinfach y llynedd, yn yr hanner arall.
Tocynnau ar werth am £7.50 ac ar gael gan yr aelodau neu drwy ffonio 01970 612768.
Oedfa Undebol
DDYDD Sul nesaf cynhelir Oedfa Undebol ar gyfer aelodau Capeli Bröydd Marles a Gwenog, yng Nghapel Pantydefaid am 10.30yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu. Bydd yr oedfa yn un arbennig iawn i gofio am bawb a gollwyd mewn rhyfeloedd drwy’r byd ar hyd y blynyddoedd.
Yn ôl yr arfer bydd croeso i’r aelodau ac i unrhyw un arall sydd am droi i mewn i glywed neges neilltuol y gweinidog ar Sul y Cofio.
Ffair Nadolig,/b>
CYNHELIR Ffair Nadolig yn y Neuadd Goffa nos Wener o 4.30yp ymlaen, gyda’r holl elw yn mynd tuag at yr Ysgol Feithrin a’r Ysgol Gynradd.
Bydd tâl o £10 am fwrdd ac os fyddwch yn arddangos a fyddwch mor garedig a rhoi rhywbeth bach tuag at y raffl hefyd, plîs. Bydd yna de, coffi a chacennau ar werth, felly dewch yn llu i gefnogi busnesau lleol fydd yn arddangos eu pethau, ynghyd â’r Ysgol Feithrin a’r Ysgol Gynradd.
Tipit
NOS Wener cynhelir cystadleuaeth Tipit yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh, felly mae cyfle gyda chi i ddod â thîm i ymuno yn yr hwyl a sbri’r noson.
Bydd holl elw’r digwyddiad yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y pentref, elusen sy’n werth ei chefnogi, felly beth amdani?
Capel Pisgah
OHERWYDD y storom fawr yn ddiweddar bu’n rhaid gohirio’r Cwrdd Diolchgarwch, felly cynhelir yr Oedfa yn awr ar nos Wener, 16 Tachwedd am 7yh gyda’r Parch Gwyn Elfyn yn gwasanaethu. Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.