THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas, yn gwasanaethu. Cafwyd neges ergydiol gan y gweinidog, un a oedd yn gwneud i bawb i feddwl yn ddiwyd am bob dim. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Cofiwch am y Noson Caws a Gwin yng nghwmni Bois y Gilfach nos Sadwrn, am 7yh yn y Neuadd Goffa. Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle o Drefenter, un â’i wreiddiau’n ddwfn iawn yn hanes y capel.
Bydd y gyngerdd yn un arbennig, gyda’r bechgyn yn perfformio eu caneuon arferol ac yn cyflwyno fersiwn fyrrach o Noson Cofio’r diweddar Barch Jacob Davies a gafwyd ei berfformio yn Theatr Felinfach llynedd. Tocynnau £7.50 gan yr aelodau neu drwy ffonio 01970 612768.
Gobeithir y bydd rhai o aelodau’r capel yn medru dod at ei gilydd i’r neuadd erbyn 5yh i wneud y paratoadau angenrheidiol cyn i’r gynulleidfa gyrraedd ar y noson. Bydd angen mins peis gan yr aelodau ar y noson.
Bydd holl elw’r digwyddiad yn mynd tuag at waith cynnal a chadw’r capel.
Cylch Meithrin
Ar nos Fercher, 5 Rhagfyr am 7.30yh cynhelir noson o gaws a gwin ac ocsiwn yn Nhafarn Glanyrafon, gyda holl elw’r noson yn mynd tuag at y Cylch Meithrin lleol. Mae yno eitemau hyfryd iawn ar gael ar yr ocsiwn, felly cyfle i brynu rhai anrhegion Nadoligaidd efallai?
Mae yn bwysig iawn codi cymaint ag arian â phosib i’r Cylch, er mwyn i blant bach yr ardal gael dechreuad da i’w haddysg.
Cymdeithas Undodaidd
AR FORE Sadwrn, 1 Rhagfyr am 11yb yng Nghapel Llwynrhydowen, bydd gwahoddiad i bawb sydd yn gysylltiedig â Chapeli ardal y Smotyn Du i ddod at ei gilydd er mwyn cael pacio anrhegion Nadolig i’r anghenus.
Gofynnir yn garedig i bobl ddod ag anrhegion i blant ac i bobl h?n, megis teganau, menig neu sgarff, eitemau ymolchi ac yn y blaen.
Hefyd gofynnir am fwydydd sych, megis caniau, pasta, reis ac ati. Bydd yr eitemau yn cael eu rhoi mewn bocsys esgidiau ac yn cael eu cyflwyno i Fanc Bwyd Llandysul, Canolfan Digartref yn Abertawe a Chymorth i Ferched Aberteifi.
Gofynnir yn garedig iawn am gefnogaeth gyda’r prosiect pwysig hyn er mwyn dangos anogaeth a chariad tuag at eraill dros ?yl y Nadolig
Canu Gwlad
NOS Sadwrn, 1 Rhagfyr croesawir Tudur Wyn yn ôl i Dafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Ar y nos Sadwrn canlynol bydd Daf a Lisa yn ôl yn canu, deuawd sy’n werth eu clywed.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.