THE latest community news from Talgarreg
G?yl Eirwyn Pontshaen
BYDD G?yl Eirwyn Pontshan yn cael ei chynnal 18-23 Mawrth – g?yl er cof am y digrifwr a’r diddanwr Eirwyn Jones o Dalgarreg.
Bydd yn dechrau yn Neuadd Ffostrasol ar nos Lun, 18 Mawrth am 7.30yh, gyda darlith gan Lyn Ebeneser: ‘Cofio Eirwyn Pontshan’.
Cynhelir y prif ddigwyddiadau ar y nos Wener, am 7yh yn y Neuadd Goffa, sef cyfraniad plant ysgol gynradd y pentref. I gychwyn bydd Sioe Gomedi Hyfryd Iawn Bach dan ofal Mair Tomos Evans, lle cawn glywed hiwmor a digrifwch plant yr ysgol. Yn dilyn bydd Hyfryd Iawn Mwy, sef sioe Eirwyn gyda chyfraniad eto gan blant yr ysgol a bydd Caio Evans yn actio Eirwyn yn blentyn ac Ioan Evans ei frawd yn ei actio fel prentis ifanc. I gloi’r noson bydd Ryland Teifi yn rhoi portread o Eirwyn.
Dydd Sadwrn am 2yp bydd taith mewn bws yn mynd o gwmpas bro Eirwyn, yn dechrau o’r neuadd dan arweiniad Cen Llwyd. I gloi ar y nos Sadwrn bydd Noson Gomedi gyda chyfuniad o ddoniau lleol a doniau cenedlaethol, megis Ifan Tregaron, Ryland Teifi, Dewi Pws, Mair Tomos Ifans ac eraill yn perfformio.
Mae’r ?yl yn ffrwyth cydweithrediad rhwng bröydd Sïon Cwilt. Mae’r trefnwyr yn cydnabod yn ddiolchgar cymorth ariannol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal yr ?yl.
Capel y Fadfa
BYDD yr oedfa ddydd Sul nesaf am 10.30yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun.
Bore coffi
CYNHALIWYD bore coffi a stondinau yn Festri Capel y Fadfa ar y cyd â Chapeli Bröydd Marles a Gwenog sy’ dan ofalaeth y Parch Wyn Thomas, tuag at Alzheimer’s. Croesawyd pawb gan y Parch Wyn Thomas a chafwyd gair gan Caroline Smith o’r elusen.
Llwyddwyd i godi £635 a fydd yn cael ei gyflwyno i’r elusen Alzheimer’s maes o law.
Caws a Gwin
CYNHELIR noson Caws a Gwin a Chlonc yn Nhafarn y Porth ar nos Wener, 5 Ebrill am 7.30yh. Bydd Dylan Iorwerth yn cadeirio panel o siaradwyr, sef Ben Lake AC, Canon Eileen Davies a Catrin Haf Jones.
Noddwyr y noson fydd Gomer; mynediad drwy docyn yn unig (£7) ar gael o’r Porth, Siop Ffab, Siop Smotyn Du, Pregethwyr y Smotyn Du neu drwy e-bostio [email protected]
Trefnwyr y digwyddiad yw Pwyllgor Yr Ymofynnydd a bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng elusennau MIND Cymru a Chanolfan Llys Pedr, Llanbedr Pont Steffan.
Eisteddfod Capel y Fadfa
ERBYN hyn mae rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa wedi dod allan; y dyddiad eleni yw dydd Sadwrn, 4 Mai yn y Neuadd Goffa.
Mae’r pwyllgor eleni wedi cael llywydd sydd wedi byw o fewn ei filltir sgwâr ac wedi bod yn aelod dibynnol o Gapel y Fadfa erioed, neb llai na Iwan Evans, Coedfardre.
Y beirniad fydd: Siw Jones, Felinfach (adran gerdd), Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talybont (llên a llefaru) a Robert Blayney, Pontsian (arlunio); a daw ein cyfeilydd, Jonathan Morgan, Abertawe yn ôl atom eleni eto.
Os oes yna gorau yn yr ardal, cofiwch am y gystadleuaeth arbennig sydd yn y rhaglen ar eich cyfer.
Gwelir manylion yn llawn ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ar www.steddfota. org.
Eleni cyflwynir cadair hardd a £50 yng nghystadleuaeth y gadair am gerdd gaeth neu rydd neu am gyfres o gerddi, heb fod dros 100 o linellau ar y testun ‘Gobaith’.
Cyflwynir y gadair a’r rhodd ariannol gan Megan, Gwyn a Ronnie er cof am eu rhieni, a fyddai wedi dathlu eu 100fed penblwydd eleni.
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Emyr Griffiths ar 01545 590383 neu Enfys Llwyd ar 01545 590295.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]