THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa foreol yn y capel dydd Sul diwethaf am 10.30yb, pryd y cafodd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas, y cyfle i rannu’r cymun unwaith eto.

Cafwyd neges amserol a geiriau pwrpasol yn ôl yr arfer gan y gweinidog. Diolchodd i bawb am bob rhodd a gweithred tuag at lwyddiant y bore coffi a gynhaliwyd yn y festri yr wythnos ddiwethaf, pryd y llwyddwyd i godi £700 tuag at yr elusen Alzheimer’s Cymru. Wrth yr organ oedd Siân Wyn.

Bydd yr oedfa nesaf ar dydd Sul, 31 Mawrth am 3yp yng nghwmni ein gweinidog y Parch Wyn Thomas.

Dathlu

Y PENWYTHNOS nesaf cynhelir g?yl i gofio Eirwyn Pontshan – sef y digrifwr a’r diddanwr Eirwyn Jones o Dalgarreg.

Llywydd y digwyddiadau fydd un o ffrindiau mynwesol Eirwyn, sef Lyn Ebenezer. Cynhelir prif ddigwyddiadau’r ?yl nos Wener am 7yh yn y Neuadd Goffa, sef cyfraniad plant Ysgol Gynradd y pentref.

I gychwyn bydd Sioe Gomedi Hyfryd Iawn Bach dan ofal Mair Tomos Evans, lle cawn glywed hiwmor a digrifwch gan blant yr Ysgol. Yn dilyn bydd Hyfryd Iawn Mwy, sef sioe Eirwyn gyda chyfraniad eto gan blant yr Ysgol a bydd Caio Evans yn actio Eirwyn yn blentyn ac Ioan Evans ei frawd yn ei action fel prentis ifanc.

I gloi’r noson bydd Ryland Teifi yn rhoi portread o Eirwyn. Dydd Sadwrn am 2yp bydd taith mewn bws yn mynd o gwmpas bro Eirwyn yn dechrau o’r neuadd dan arweiniad Cen Llwyd, gan ymweld â nifer o leoedd sy’n gysylltiedig â hanes Eirwyn a hanes yr ardal.

I gloi’r ?yl ar y nos Sadwrn bydd Noson Gomedi gyda chyfuniad o ddoniau lleol a doniau cenedlaethol megis Ifan Tregaron, Ryland Teifi, Dewi Pws, Mair Tomos Ifans ac eraill yn perfformio.

Mae’r ?yl yn ffrwyth cydweithrediad rhwng bröydd Sion Cwilt ac mae croeso cynnes i bawb i holl ddigwyddiadau’r ?yl a fydd yn llawn o hwyl a chân. Mae’r trefnwyr yn cydnabod yn ddiolchgar cymorth ariannol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal yr ?yl.

Caws a gwin

CYNHELIR Noson Caws a Gwin a Chlonc yn Nhafarn y Porth ar nos Wener, 5 Ebrill am 7.30yh.

Bydd Dylan Iorwerth yn cadeirio panel o siaradwyr, sef Ben Lake AC, Canon Eileen Davies a Catrin Haf Jones.

Noddwyr y noson fydd Gomer. Mynediad drwy docyn yn unig. Pris y tocynnau fydd £7 yr un ac maent ar gael o’r Porth, Siop Ffab, Siop Smotyn Du, Pregethwyr y Smotyn Du neu drwy e-bostio [email protected]

Trefnwyr y digwyddiad arbennig hyn yw Pwyllgor yr Ymofynnydd a bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng elusennau MIND Cymru a Chanolfan Llys Pedr, Llanbedr Pont Steffan.

Croeso cynnes i bawb. Mae’r tocynnau yn dechrau mynd, felly os ydych am rai, holwch ein gweinidog y Parch Wyn Thomas mor fuan a phosib.

Cwis

AR nos Iau, 18 Ebrill, cynhelir Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh. £5 y tîm, gyda hyd at bedwar aelod ymhob tîm.

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y Pentref a Chancr y Brostad.

Digon o amser o nawr tan y dyddiad i bawb gael timoedd yn barod am noson o hwyl a sbri.

Bydd y cwestiynau yn cael ei holi yn y Gymraeg a’r Saesneg, felly dewch i gefnogi ac i godi arian ar gyfer dwy elusen haeddiannol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]