THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

DDYDD Sul y Pasg cynhaliwyd oedfa gymun yng ngofal ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas a chafwyd neges amserol a phwrpasol iawn ganddo.

Hyfryd oedd cael cwmni Elaine o Scarborough, sydd â chysylltiad agos iawn â Chapel y Fadfa.

Soniodd y gweinidog fod y siec o £700, sef elw’r bore coffi a gynhaliwyd yn y festri wedi cael ei throsglwyddo i Gymdeithas Alzheimer’s yng Nghyrddau’r Gwanwyn y Gymdeithas yn ddiweddar.

Diolchodd hefyd i bawb a fu’n cymhenni a thacluso o gwmpas y ddau d? capel yr wythnos diwethaf a braf gweld fod gwaith ar y ddau d? yn dirwyn i ben, gan obeithio y bydd deiliaid newydd yn byw ynddynt cyn do hir.

Gwnaed y casgliad gan Mari a Carol oedd wrth yr organ.

Cynhelir yr oedfa Sul, 12 Mai am 10.30yb gyda’n gweinidog yn gwasanaethu.

Cymanfa Ganu

ELENI cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undodiaid ardal y Smotyn Du yng Nghapel Brondeifi. Roedd dwy oedfa ganu yn ôl yr arfer, un am 2yp gyda phlant a phobl ifanc yr Ysgolion Sul yn dangos eu doniau ar lafar a chân a’r llall am 5.30yh ar gyfer yr oedolion.

Trefnydd y dydd oedd y Parch Alun Wyn Dafis a’r arweinydd gwadd oedd Enfys Hatcher Davies, Llanddewi Brefi a’r organyddes oedd Eirian Jones.

Dwy ferch oedd llywyddion y dydd, sef Donna Williams o Gapel Rhydygwin yn y prynhawn a Heddwen Hewis o Gapel Brondeifi, ond sy’n byw yn awr yn Kidlington, yn yr hwyr.

Hyfryd yw gweld y Gymanfa yn dal i fynd gan fod 127 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

Cwis

CYNHALIWYD Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon gyda holl elw’r noson yn mynd tuag at Gymdeithas Henoed y Pentref a Chancr y Brostad. Cafwyd noson o hwyl a sbri, gan godi swm sylweddol i’r ddwy elusen.

Diolch i Gwion ac Elin am drefnu’r noson unwaith eto ac edrychir ymlaen am ragor o nosweithiau cwisiau tebyg yn y dyfodol.

Eisteddfod

DDYDD Sadwrn cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa yn y Neuadd Goffa.

Mae’r llywydd eleni wedi byw o fewn ei filltir sgwâr erioed ac wedi bod yn aelod dibynnol o Gapel y Fadfa ar hyd y blynyddoedd, sef Iwan Evans, Coedfardre.

Y beirniaid fydd: Siw Jones, Felinfach (cerdd); Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talybont (llên a llefaru); a Robert Blayney, Pontsian (arlunio); a’r cyfeilydd eleni eto fydd Jonathan Morgan, Abertawe.

Mae yna gystadlaethau yn y rhaglen sy’n apelio at ddant pawb, gyda gwobrau da ym mhob categori. Os oes yna gorau yn yr ardal, cofiwch am y gystadleuaeth arbennig sydd yn y rhaglen ar eich cyfer.

Gwelir manylion ar y wefan www.steddfota.org

Eleni cyflwynir cadair hardd a £50 am gerdd gaeth neu rydd neu am gyfres o gerddi, heb fod dros 100 o linellau ar y testun ‘Gobaith’. Cyflwynir y gadair a’r rhodd ariannol gan Megan, Gwyn a Ronnie er cof am eu rhieni, a fyddai wedi dathlu eu 100fed pen-blwydd eleni.

Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Emyr Griffiths (01545 590383) neu Enfys Llwyd (01545 590295).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]