THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 10.30yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.
Yn ôl yr arfer cafwyd oedfa fendithiol yn ei gwmni. Diolch i Siân Jones am ddod i’r adwy i chwarae’r organ.
Mae yna gais i bawb sydd â chysylltiad â’r capel i ddod i wneud gwaith cynnal a chadw a thacluso o amgylch y fynwent a’r capel ar nos Lun, 20 Mai.
Cynhelir yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 2 Mehefin am 3yp gyda’n gweinidog yn gweinyddu’r cymun.
Gymanfa Bwnc
DDYDD Sul nesaf bydd aelodau Capel y Fadfa, Capel y Graig a Phantydefaid yn ymuno gydag aelodau Capel Llwynrhydowen ar gyfer y Gymanfa Bwnc flynyddol am 1.30yp. Thema’r gymanfa eleni fydd ‘Wyneb i Waered’ felly diddorol fydd i weld beth sydd gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas dan sylw.
Croeso i bawb i’r digwyddiad blynyddol hwn.
Eisteddfod Gadeiriol
CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa ar ddydd Sadwrn yn ddiweddar yn Neuadd Goffa’r pentref. Y beirniaid oedd Sue Jones, Felinfach ar yr adran gerdd; y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan oedd yn beirniadu’r adrannau llên a llefaru. Braf oedd cael croesawi Robert Blayney yn ôl i feirniadu’r adran arlunio unwaith eto ac mae Jonathan Morgan yn hen gyfarwydd a dod i gyfeilio atom yn yr eisteddfod erbyn hyn a braf oedd ei weld unwaith eto wrth y piano. Llywydd y dydd oedd Iwan Evans, Coed Fadre un a’i wreiddiau teuluol yn ddwfn yng Nghapel y Fadfa. Hyfryd oedd cael ei groesawi ar y diwrnod neilltuol hwn ac i glywed ei neges arbennig.
Rhoddwyd y gadair gan Megan, Gwyn a Ronnie er cof am eu rhieni Tomi a Maggie Llaindelyn a fyddai wedi dathlu eu 100fed pen-blwydd eleni. Gwneuthurwr y gadair oedd Clinton Jones. Cafwyd 12 awr o gystadlu brwd o safon uchel iawn. Gwnaed y diolchiadau i bawb gan Y Parch Wyn Thomas.
Canlyniadau - Unawd i blant Ysgol Feithrin: 1 Megan Rowcliffe, Talgarreg. Unawd i blant Ysgol Sul y Bwlch a Ysgol Talgarreg dan 8 oed: 1 Efan Evans, Talgarreg. Unawd i Ysgol Sul y Bwlch a Ysgol Talgarreg dan 13 oed: 1 Mali Evans, Talgarreg. Parti Unsain dan 13 oed : 1 Ysgol Sul Capel y Fadfa.
Unawd dan 6 oed: 1 Gruff Rhys Davies, Llandyfriog. Unawd dan 8 oed: 1 Noa Potter Jones, Drefach. Unawd 10 oed: 1 Gwenan Lloyd Owen, Llanllwni. Unawd 10 a than 12 oed: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni. Unrhyw offeryn cerdd dan 12 oed: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni. Deuawd dan 12 oed: 1 Betrys a Alwena.
Unawd 12 a than 16 oed: 1 Ioan Mabutt, Aberystwyth. Canu Emyn dan 16 oed: 1 Betrys Llwyd Dafydd, Abermeurig. Unawd cerdd dant dan 16 oed: 1 Betrys Llwyd Dafydd Abermeurig. Deuawd agored: 1 Betrys a Alwena. Cân werin dan 18 oed: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni. Unawd allan o unrhyw sioe gerdd agored: 1 Erin Morgan, Alltwalis. Her unawd agored: 1 Betrys Llwyd Dafydd, Abermeurig. Unawd offeryn cerdd agored: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni. Unawd cerdd dant agored: 1 Betrys Llwyd Dafydd Abermeurig. Canu Emyn dan 50 oed: 1 Erin Morgan, Alltwalis. Côr: 1 Côr Meibion Cwmann. Adrodd i blant Ysgol Feithrin: 1 Megan Rowcliffe, Talgarreg. Adrodd i blant Ysgol Sul y Bwlch a Ysgol Talgarreg dan 8 oed: 1 Efan Evans, Talgarreg. Adrodd i blant Ysgol Sul y Bwlch a Ysgol Talgarreg dan13 oed: 1 Dafi Evans, Talgarreg. Adrodd dan 6 oed: 1 Gruff Rhys Davies, Llandyfriog. Adrodd dan 8 oed: 1 Noa Potter Jones, Drefach. Adrodd dan 10 oed: 1 Fflur McConell, Aberaeron. Adrodd 10 a than 12 oed: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni. Adrodd 12 a than 16 oed: 1 Elen Morgan, Drefach. Adrodd unrhyw gerdd gan prifardd a aned yng Ngheredigion: 1 Maria Evans, Alltwalis. Her adroddiad: 1 Maria Evans, Alltwalis. Adrodd digri: 1 Alwena Mair Owe, Llanllwni. Cadair: Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon. Tlws yr Ifanc: Alpha Evans, Cribyn. Ffurfio pum dihareb: Trefor Huw Jones, Llanfarian. Englyn: Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon. Brawddeg: Gwion Dafydd, Talgarreg. Limrig: Gwion Dafydd, Talgarreg. Stori fer Bl 2 ac iau: 1 Efan Evans, Talgarreg. Bl 3 a 4: 1 Fflur McConnell, Aberaeron. Bl 5 a 6: 1 Beca Dwyryd, Porthmadog. Arlunio Bl 2 ac iau: 1 Charlie Rowlins; Bl 3 a 4: 1 Efa Lidell; Bl 5 a 6: 1 Miriam Davies. Creu graffeg gyfrifiadurol Bl 2 ac iau: 1 Marged Dafis; Bl 3 a 4: 1 Nia Jones; Bl 5 a 6: 1 Beca Dwyryd, Porthmadog.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.