THE latest community news from Talgarreg

Eisteddfod yr Urdd Genedlaethol

BU llawer o blant a phobl ifanc yr ardal yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i lawr ym Mae Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, rhai wedi cael llwyddiant, eraill wedi cael y cyfle i berfformio ar y llwyfan mawr am y tro cyntaf. Daeth llwyddiant hefyd ar y gwaith cartref i amryw, felly da iawn bawb.

G?yl y pentref

BYDD yr ?yl eleni yn dechrau ar nos Wener, 12 Gorffennaf gyda’r helfa drysor o amgylch y pentref.

I ddilyn ar y dydd Sadwrn cynhelir y carnifal a’r mabolgampau a Ras Siôn Cwilt a bydd rownderi a barbeciw yn dilyn y Ras Fawr.

Dewch yn llu i’r digwyddiadau hyn sydd fel arfer yn llawn sbri.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Catrin Owens-Evans, Allana SilvestriJones neu Kathleen Griffiths.

Taith tractorau

DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd taith tractorau a hen geir o gwmpas yr ardal.

Dechreuodd dros 30 o’r neuadd am 11yb, er gwaethaf y tywydd, ar ôl cofrestru a chael lluniaeth.

Roedd yr elw i gyd yn mynd tuag at yr ysgol leol a chyfraniad i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa gymun gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

Yn ystod y gwasanaeth cofiodd y gweinidog am Dai Griffiths, sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty, a diolchodd i bawb am fu’n tacluso a thorri’r borfa yn ddiweddar o gwmpas y capel. Wrth yr organ oedd Siwsan Davies.

Ddydd Sul nesaf mae yna wahoddiad i aelodau’r capeli fynd lawr i Gapel Penrhiw San Ffagan, gan fod G?yl yr Ysgolion Sul yn cael ei gynnal yno. Mae’r gwasanaeth am 2yp ac os oes unrhyw un am fynd, cysylltwch ar fyrder gyda’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]