THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

DDYDD Sul roedd y Parch Wyn Thomas yn arwain yr oedfa yng Nghapel Soar y Mynydd am 2yp ac roedd yn dda iawn gweld rhai aelodau o’i gapeli wedi medru mynd lan i’r gwasanaeth i gefnogi ein gweinidog.

Ni fydd oedfa yn y capel uchod tan ddydd Sul, 30 Mehefin am 1.30yp, pryd y cynhelir Cwrdd Pawb Ynghyd, gyda’r Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

Bydd te a chacennau yn cael eu gweini yn y festri yn dilyn yr oedfa flynyddol hon.

Cylch Meithrin

DDYDD Gwener bydd parti penblwydd Sali Mali yn cael ei gynnal yn y neuadd o 1.30yp tan 3.15yp.

Bydd Sali Mali ei hun yn dod ar ymweliad i ganu ac i ddawnsio gyda’r plant bach. Croeso cynnes i bawb.

Os ydych yn hoff o chwarae bingo, dewch draw i Dafarn Glanyrafon nos Wener erbyn 7.30yh i weld a fydd eich lwc i mewn gyda’r ffigurau.

Ond yn fwy pwysig na hynny, dewch i godi arian tuag at y Cylch Meithrin lleol sy’n gwneud gwaith gwych gyda’r plantos bach.

G?yl y Pentref

BYDD yr ?yl yn dechrau eleni ar nos Wener, 12 Gorffennaf gyda’r helfa drysor o amgylch y pentref ar droed.

I ddilyn ar y dydd Sadwrn cynhelir y carnifal a’r mabolgampau a Ras Sion Cwilt a bydd rownderi a barbeciw yn dilyn y ras fawr.

Dewch yn llu i’r digwyddiadau hyn, sydd fel arfer yn llawn sbri.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Catrin Owens-Evans, Allana SilvestriJones neu Kathleen Griffiths.

Cymdeithas Alzheimer’s

CYNHALIWYD bore coffi yn y neuadd fore Sadwrn diwethaf er budd yr elusen uchod.

Pleser yw nodi fod £850 wedi cael ei godi yn ystod y bore.

Os oes unrhyw un am gyfrannu eto bydd Carol Rees, Rhosdir yn fodlon derbyn eich cyfraniad gyda diolch.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]