THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

DDYDD Sul nesaf am 1.30yp, cynhelir Gwasanaeth Pawb Ynghyd gyda’r Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu ac yn rhannu’r cymun.

Yn ôl yr arfer estynnir croeso cynnes i aelodau a ffrindiau i’r oedfa flynyddol hon.

Bydd te a chacennau yn y festri yn dilyn yr oedfa a chroeso eto i bawb i gymdeithasu dros baned.

Prynhawn Iau mae yna erfyniad ar yr aelodau a ffrindiau’r achos yma yng Nghapel y Fadfa i ddod at ei gilydd i dacluso o gwmpas y capel a’r fynwent a hefyd i roi help llaw i gymhennu a chymoni o amgylch y ddau d? capel cyn bod tenantiaid newydd yn symud i mewn.

Taith gerdded

DDYDD Sul, 7 Gorffennaf cynhelir taith gerdded flynyddol capeli ardal y Smotyn Du. Byddwn yn ddechrau yn Horeb am 10.30yb, gan fynd lawr i Landysul ac i Gapel y Graig.

Felly dewch i gerdded neu noddwch berson o’ch capel sy’n cerdded. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at Sefydliad DPJ - elusen sy’n cefnogi pobl mewn cymunedau gwledig sy’n dioddef o iechyd meddwl bregus, yn enwedig dynion yn y sector amaeth.

Cylch Meithrin

DDYDD Gwener bu parti pen-blwydd Sali Mali yn y neuadd o 1.30 tan 3.15yp ac roedd Sali Mali ei hun wedi dod ar ymweliad i ganu ac i ddawnsio gyda’r plant bach. Cafwyd prynhawn llawn hwyl a sbri.

Yna nos Wener chwarae bingo roedd sawl un yn wneud yn Nhafarn Glanyrafon. Ond yn fwy pwysig na hynny, codi arian tuag at y Cylch Meithrin lleol oedd yn digwydd, er mwyn gwneud yn si?r fod y gwaith arbennig yn parhau i ddigwydd gyda’r plantos bach.

G?yl y Pentref

BYDD yr ?yl yn ddechrau ar nos Wener, 12 Gorffennaf gyda’r helfa drysor o amgylch y pentref ar droed.

I ddilyn ar y dydd Sadwrn cynhelir y carnifal a’r mabolgampau a ras Sïon Cwilt a bydd rownderi a barbeciw yn dilyn y ras fawr.

Dewch yn llu i’r digwyddiadau hyn sydd fel arfer yn llawn sbri. Am ragor o fanylion cysylltwch â Catrin Owens-Evans, Allana SilvestriJones neu Kathleen Griffiths.

Ymddeoliad

BYDD Mair Potter yn ymddeol fel pennaeth Ysgol Talgarreg ar ddiwedd tymor yr haf ar ôl 23 o flynyddoedd.

Bu hefyd yn bennaeth cysylltiol ar ysgolion Caerwedros, Llandysul, Capel Cynon, Pontsian, Coed-y-bryn a Beulah dros y blynyddoedd.

Os hoffech gyfrannu rhywbeth at ei thysteb ymddeol, anfonwch mewn amlen at sylw: Bethan M Jenkins, Ysgol Talgarreg, Llandysul SA44 4ER (ffôn: 01545 590683) os gwelwch yn dda, erbyn dydd Mercher, 10 Gorffennaf fan bellaf.

Byddwn hefyd yn cynnal parti ffarwelio yn neuadd y pentref ar brynhawn Mawrth, 16 Gorffennaf, 2yp-5.30yp, croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]