MAE breuddwyd y canwr roc diweddar Mike Peters wedi ei wireddu gan ei ffrind, y canwr clasurol Rhys Meirion.
Bu farw Mike ym mis Ebrill 2025, ond fis cyn ei farwolaeth, derbyniodd Rhys un neges olaf gan Mike yn gofyn iddo greu fersiwn Gymraeg o’i gân St David’s Day.
Cafodd y gân wreiddiol ei chyfansoddi gan Mike, prif leisydd y band The Alarm, ar gyfer y sioe gerdd Flesh and Blood a gafodd ei pherfformio yn Theatr y Sherman yn 1999.
Am 20.30 ar Ddydd Gŵyl Dewi, cawn ddilyn her Rhys i wireddu breuddwyd Mike mewn rhaglen arbennig ar S4C, Neges Olaf Mike Peters.
Bydd y rhaglen hefyd ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg, a’r gân i’w chlywed yn ei chyfanrwydd ar YouTube S4C.
Caiff y trac ei recordio yn Stiwdio Sain, gyda meibion Mike - Dylan ac Evan - yn rhan flaenllaw o’r recordiad.
Mae Rhys hefyd yn cael cymorth Osian o’r Candelas ac Aled, basydd Cowbois Rhos Botwnnog, yn ogystal â Chôr Meibion Trelawnyd.
Wrth sôn am fawredd y dasg o’i flaen, meddai Rhys bod Mike yn “dipyn o arwr” iddo: “Dros y blynyddoedd, o’n i a Mike wedi dod yn dipyn o ffrindiau, ar ôl i’n llwybrau ni groesi ar sawl achlysur, sydd ella’n anghyffredin i ganwr clasurol fel finnau, a chanwr roc fel Mike.
“Roedd Mike wedi bod yn brwydro canser am dros 30 o flynyddoedd, ac er hynny, roedd ganddo wastad wên ar ei wyneb, a hynny’n ysbrydoliaeth mawr i finnau pan ges i ddiagnosis o ganser fy hun.”
Ychwanegodd Jules Peters, gwraig Mike: “Dwi’n siŵr y bydd yn emosiynol. Dwi ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl, ond dwi’n edrych ymlaen iddo.
“Mae St David’s Day yn gân emosiynol ar y gorau a phryd bynnag dwi’n ei chlywed hi, mae hi wastad yn gwneud imi grio, mae ‘na rywbeth ym mhatrwm y cordiau. Dwi’n gobeithio bod rhai hancesi wrth law pan dwi’n ei chlywed hi ‘nôl.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.