THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

BYDD yr oedfa ddydd Sul am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rannu’r cymun.

Croeso i bawb.

Sioe gynnyrch

CYNHELIR Sioe Hen Beiriannau, Gweithio a Chynnyrch ar gaeau Coed Fadre, Bwlch y Fadfa, drwy garedigrwydd Iwan Evans, ddydd Sadwrn, 21 Medi, i ddechrau am 9yb.

Am fwy o fanylion neu i dderbyn rhaglen cysylltwch â Peter Newill neu Iwan Evans.

Adran Bentre

MAE’R adran wedi penderfynu gwerthu’r bwrdd snwcer, maint llawn ac am gynnig y cyfle cyntaf i rieni aelodau’r adran.

Os am brynu’r bwrdd, cysylltwch ag Allana neu Catrin mor fuan â phosib.

Noson i’r teulu

CYNHELIR Miri Medi yn y Neuadd Goffa, nos Sadwrn, 7 Medi: ras peli i am 6.30yh a bwyd ac adloniant i ddilyn.

Bydd cystadleuaeth dweud jôc gyda gwobr i’r jôc ore.

Tocynnau ar gael drwy ffonio 590691. Bydd rhan o’r elw yn mynd tuag at Apêl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

Pwyllgor y Neuadd sy’n trefnu a byddai’n dda os medrwch gefnogi’r digwyddiad blynyddol hwn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]