THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
BYDD yr oedfa nesaf ar brynhawn Sul, 2 Hydref am 1.30yp, pryd y cynhelir Cyrddau Cymdeithas Undodiaid Deheudir Cymru.
Bydd Llywydd Cenedlaethol yr enwad, sef Dot Hewerdine yn bresennol, ynghyd â dau gyn-lywydd o Gymru, sef y Parch Eric Jones a Lis Dyson Jones.
Estynnir croeso cynnes i bawb i’r digwyddiad hwn, sef yr achlysur olaf yn y gyfres Dathliadau Jacob - Cofio’r Cant.
Canu Gwlad
OHERWYDD amgylchiadau, ni fydd Tudur Wyn yn canu yn Nhafarn Glanyrafon nos Sadwrn nesaf.
Neuadd Goffa
YN DDIWEDDAR cynhaliwyd Miri Medi dan nawdd pwyllgor y neuadd. Cafwyd ras beli ac enillwyr y gwobrau oedd: 1 Harri Whitfield, 2 Elliw Mills, 3 Lilly a Jac.
I ddilyn cafwyd pryd dau gwrs blasus, yna adloniant gan Dafydd Pantrod a Rhydian Brynog. Noson hwylus iawn a gododd dros £1,000 tuag at goffrau’r neuadd. Diolch i bawb a gefnogodd mewn unrhyw ffordd.
Os ydych yn dymuno llogi’r neuadd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, cysylltwch gydag aelodau’r pwyllgor neu e-bostiwch [email protected]
Cofiwch fod modd i chi gefnogi’r achos a cheisio ennill gwobrau drwy’r flwyddyn wrth ymuno gyda’r Clwb 100, sy’n fargen am £6 y flwyddyn.
Mis o Gofio’r Cant
CYNHALIWYD mis o ddigwyddiadau i gofio am un o Gymry mwya’ amryddawn yr ugeinfed ganrif, y Parch D Jacob Davies, union 100 mlynedd ers ei eni.
Cychwynnwyd ar y cofio, wrth i Dylan Iorwerth gadeirio ‘Penigamp’, sef y rhaglen a oedd yn cael ei chyflwyno gan Jacob ar Radio Cymru sawl blwyddyn yn ôl. I Gapel y Bryn, Cwrtnewydd aeth pawb ar yr ail ddydd Sul i wrando ar y Parch Cen Llwyd a ffrindiau yn cyflwyno detholiad allan o ‘Ddyddiadur Tramp’, sef detholiad o ddyddiadur blwyddyn olaf bywyd Jacob.
Yna prynhawn Sul diwethaf y cyn-archdderwydd T James Jones - Jim Parc Nest oedd yn ‘Cofio Jacob’ yng Nghapel y Cwm, Cwmsychbant. Cafwyd cyfle i rannu storïau ac i glywed ambell i atgof a gawsom gan Jim, fel un oedd yn adnabod Jacob yn dda iawn. Gwnaed casgliadau tuag at Elusen Parkinson’s ac Elusen yr Arennau.
Un o’r digwyddiadau mwya’ cofiadwy fydd atgyfodi Côr y Fflam, y parti o bobol ifanc o gapeli’r Undodiaid a fu’n cynnal nosweithiau a gwasanaethau trwy Gymru a thu hwnt yn y ‘60au a’r ‘70au, gan ganu geiriau roedd Jacob wedi eu cyfansoddi ar ganeuon pop y dydd ar eu cyfer. Cymanfa Codi Hwyl sydd yn cael ei gynnal nos Sul nesaf yng Nghapel Pantydefaid am 7.30yh.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.