THE latest community news from Talgarreg.

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa prynhawn Sul diwethaf gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun am y tro olaf eleni, ynghyd ag anerchiad amserol.Cyhoeddwyd fod y Gymanfa Garolau wedi gwneud elw o £288 tuag at y capel, ac atgoffwyd yr aelodau am arian y weinidogaeth.Penderfynwyd rhoi casgliad y prynhawn tuag at waith Cymorth Cristnogol ac yn neilltuol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded yr wythnos hon o Fethlehem, Sir Gâr i’r Aifft yn Sir Ddinbych. Cyhoeddwyd fod dros £50 yn y casgliad.I ddilyn roedd Pwyllgor yr Eisteddfod, a da oedd datgan fod yr eisteddfod eleni wedi gwneud elw. Bydd mwy o fanylion am Eisteddfod y flwyddyn nesaf allan ddechrau’r flwyddyn.Yr organyddes oedd Carol Rees.

Canu

CAFWYD noson arbennig arall yng Ngwesty Glanyrafon nos Sadwrn, gyda’r amryddawn Clive Edwards yn diddanu unwaith eto.

Cylch Meithrin a Ti a Fi

CYNHELIR Noson Caws a Gwin ac Ocsiwn i godi arian tuag at Cylch Meithrin a Ti a Fi y pentref, nos Fercher yng Ngwesty Glanyrafon am 7yh. Mynediad trwy docyn, £4 oddi wrth rhieni ac aelodau’r pwyllgor.Mae yna eitemau ar gael yn yr ocsiwn, rhywbeth at ddant pawb. Croeso cynnes i bawb.

WYTHNOS ddiwethaf bu’r plant a phobl ifanc yr adran leol yn cystadlu yn Carnifalwn yr Urdd yn Felin-fach. Ar ddiwedd y cystadlu daeth aelodau’r adran i’r brig ac yn enillwyr ar y noson. Prifardd y Carnifalwn oedd Cerys Jones, sy’n aelod o’r adran. Pob clod i’r ieuenctid hyn am ddod â’r tlws yn ôl i’r pentref unwaith eto. Ar nos Iau, 15 Rhagfyr bydd aelodau’r adran ynghyd â’u rhieni yn mynd o amgylch y pentref yn canu carolau.

Noson carolau

CYNHELIR Noson carolau yn y Neu-add Goffa ar nos Fawrth, 20 Rhagfyr, gyda’r casgliad yn mynd tuag at waith hosbis yn y cartref.If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]