THE latest community news from Talgarreg.

Capel y Fadfa

NOS Sul nesaf cynhelir Gwasanaeth Nadolig plant a phobl ifanc yr Ysgol Sul am 7yh ac estynnir croeso cynnes i bawb i’r oedfa arbennig hwn yng nghalendr ein gwasanaethau blynyddol.

I ddilyn bydd te parti yn cael ei gynnal yn y festri, pryd y bydd Siôn Corn yn dod ar ei ymweliad blynyddol i anrhegu’r plant sydd wedi mynychu’r Ysgol Sul gydol y flwyddyn.

Canu

CAFWYD noson arbennig arall yng Ngwesty Glanyrafon nos Sadwrn diwethaf, pryd ddaeth y ddeuawd newydd, sydd yn canu dan yr enw Dafydd a Lisa, yn ôl yn diddanu unwaith eto yng nghwmni Lliwen ar yr allweddellau. Cyfle i glywed ambell i gân swynol oddi ar ei CD newydd a rhai o’r hen ffefrynnau a gafwyd.

Cylch Meithrin a Ti a Fi

CYNHALIWYD noson Caws a Gwin ac Ocsiwn i godi arian ar gyfer Cylch Meithrin a Ti a Fi y pentref nos Fercher ddiwethaf yng Ngwesty Glanyrafon. Diolch yn fawr i’r holl gwmnïau, rhieni, staff a ffrindiau’r Cylch Meithrin a Ti a Fi am yr eitemau i’r ocsiwn. Hefyd diolch i bawb a gyfrannodd a chefnogodd y noson. Llwyddwyd i godi’r swm anhygoel o £2,176.50.

Adran yr Urdd

NOS Iau fe fydd aelodau’r adran ynghyd a’i rhieni yn mynd o amgylch y pentref yn canu carolau.

Capel Pisgah

CYNHELIR Gwasanaeth Nadolig y plant nos Sul nesaf am 7yh, ac yna bydd pawb yn mynd i lawr i’r Neuadd Goffa i fwynhau’r te parti ac ymweliad Siôn Corn.

Noson Garolau

CYNHELIR Noson Garolau yn y Neuadd Goffa ar nos Fawrth, 20 Rhagfyr, pryd y bydd y casgliad yn mynd tuag at waith yr elusen Hosbis yn y Cartref.

Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page