THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
NOS Sul diwethaf cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig plant a phobl ifanc yr Ysgol Sul.Braf oedd gweld y plant yn mynd drwy eu pethau ar lafar a chân, â phawb yn gwybod eu gwaith yn dda iawn, ac yn dweud eu stori gyda gwên lydan ar eu hwynebau.Cofiwyd mai ffoaduriaid oedd Joseff a Mair yn eu dyddiau ac nid yw pethau wedi gwella yn ein hamser ni.Yr ddwy organyddes oedd Catrin ac Enfys. Gwnaed y diolchiadau gan ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas, i bawb a fu’n cymryd rhan ac i’r ath-rawon a fu’n dysgu’r plant.I ddilyn aeth pawb i’r te parti a oedd yn cael ei gynnal yn y festri, pryd y daeth Siôn Corn ar ei ymweliad bly-nyddol i anrhegu’r plant a oedd wedi mynychu’r Ysgol Sul. Cynhelir gwasanaeth carolau yn Hen Gapel Llwyn ar nos Wyl Nadolig am 9yh.Fore Nadolig cynhelir Oedfa Undebol Capeli Bröydd Marles a Gwenog yng Nghapel y Cwm am 9yb, gyda’r Parch Wyn Thomas yn arwain y gwasanaeth.
Noson garolau
CYNHELIR noson garolau yn y Neu-add Goffa nos Fawrth am 7yh, gyda’r casgliad yn mynd tuag at waith yr elusen Hosbis yn y Cartref.
Gwisg ffansi
CHWILIO am rywbeth i wneud ar nos wyl y flwyddyn newydd? Beth am fynd i noson gwisg ffansi yn Nhafarn Glanyrafon?Y llythyren G yw thema’r noson eleni a bydd gwobrau arbennig ar gyfer yr oedolyn a’r plentyn gorau a fydd wedi gwisgo lan.Yn ôl yr arfer bydd bwffe blasus yn cael ei weini ar gyfer pawb gan Hefin a Megan, felly beth amdani – ewch i chwilio am y dillad gwisgo lan!
Adran yr Urdd
OHERWYDD gwyliau’r Nadolig ni fydd yr adran yn cwrdd tan nos Iau, 12 Ionawr, pryd y bydd Gwion Dafydd yn arwain gêm o Chwist.Capel Pisgah CYNHALIWYD gwasanaeth Nadolig y plant nos Sul diwethaf am 7yh yn y capel ac yna aeth pawb lawr i’r Neuadd Goffa i fwynhau’r te parti ac ymweliad Siôn Corn. Ar fore Sul, 1 Ionawr, cynhelir Oedfa’r Ofalaeth am 10.30yb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





_cropped.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.