THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
COFIWCH bawb i ddod i gefnogi’r Ras Ganhwyllau sy’n cael ei gynnal yn festri’r capel brynhawn Gwener am 1.30yp.
Hefyd bydd ambell i stondin yn cynnwys cacennau a photeli, ynghyd â phaned a bisgedi yn cael ei weini i bawb. Bydd yr elw yn mynd tuag at dreuliau hyrwyddo Undodiaeth Gymreig yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr enwad ym Mirmingham ym mis Ebrill, pryd y byddwn fel Undodiaid Cymru yn ymgymryd at y Seremoni Agoriadol am y tro cyntaf erioed.
Ar Sul cyntaf y flwyddyn, cynhelir Oedfa Undebol yng Nghapel Pantydefaid am 10.30yb, pan fydd y Parch Wyn Thomas yn estyn croeso cynnes i aelodau’r chwe capel sydd dan ei ofalaeth ynghyd â ffrindiau’r achos i’r oedfa.
Cynhelir yr oedfa nesaf ar brynhawn Sul, 8 Ionawr am 3yp dan ofal ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Noson Garolau
CYNHALIWYD noson garolau yn y Neuadd Goffa nos Fawrth ddiwethaf dan ofal medrus Teleri yn arwain y gân, gydag Elin wrth y piano.
Roedd y casgliad yn mynd tuag at waith yr elusen Hosbis yn y Cartref a braf yw cael cyhoeddi bod dros £220 wedi ei gyfrannu i’r sefydliad teilwng.
Adran yr Urdd
BU’R aelodau allan yn canu carolau o amgylch y pentref ynghyd â rhai o’r rhieni. Bydd hanner yr arian a godwyd yn mynd tuag at waith yr Adran ar hanner arall yn mynd tuag at elusen o ddewis y plant a’r bobl ifanc.
Oherwydd gwyliau’r Nadolig, ni fydd yr adran yn cwrdd nawr tan nos Iau, 12 Ionawr, pryd y bydd Gwion Dafydd yn arwain gêm o chwist, croeso i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.