THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
BYDD yr oedfa ddydd Sul am 1.30yp gyda’r Parch Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu yn arwain mewn Oedfa Ddiolchgarwch. Croeso cynnes i bawb i’r oedfa arbennig hon.
Ddydd Sul diwethaf cynhaliwyd Cyrddau Blynyddol Cymdeithas Undodaidd ardal y Smotyn Du yng Nghapel Caeronnen am 1.30yp.
Braf oedd gweld cymaint wedi dod o’r gwahanol gapeli i’r oedfa a oedd yng ngofal y Parch Cen Llwyd. Wrth yr organ oedd Eirian Jones
Y gwr gwadd oedd Ben Lake. Cyfle iddo rannu ei brofiadau o’r misoedd cyntaf yn ei swydd fel Aelod Seneddol Ceredigion, ei weledigaeth a’i fwriadau a chafwyd cyfle i’w holi hefyd. Roedd yn agoriad llygaid i glywed am y profiadau amrywiol mae wedi eu cael hyd yn hyn. Dymunir yn dda iddo yn ei waith.
Roedd Carys Mai wedi dod gyda Ben; hi sy’n cadw trefn ar ei swyddfa yng Ngheredigion a dymunir bob lwc iddi hefyd yn ei swydd newydd.
At hyn roedd Glan Davies yn bresennol ar ran yr elusen Calonnau Cymru i dderbyn siec o £1,250, sef yr arian a godwyd adeg y daith gerdded a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf.
I ddilyn cafwyd paned o de a chacennau a oedd wedi eu paratoi gan Mair a Meinir Green. Aed ymlaen wedyn i gynnal pwyllgor blynyddol o’r gymdeithas, gyda Nans Davies yn llywyddu.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn diwethaf y canwr a’r digrifwr Clive Edwards oedd yn diddanu yng Ngwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Mae elw’r nosweithiau canu hyn i gyd, sy’n cael eu cynnal yn y gwesty, yn mynd tuag at Ymchwil Cancr, felly diolchir i bawb sy’n dod i gefnogi.
Sioe Hen Beiriannau
ER gwaethaf y tywydd cynhaliwyd Sioe Hen Beiriannau gweithiol a chynnyrch o bob math ar gae Coed Fardre, Bwlchyfadfa, trwy garedigrwydd Iwan Evans, ddydd Sadwrn diwethaf.
Thema’r dydd oedd certi a hen whilberi. Roedd rhywbeth at ddant pawb yng nghystadlaethau’r dydd, gan gynnwys lluniaeth a bar. Roedd yno hefyd arddangosfa o hen geir a pheiriannau.
Cymanfa Fodern
ROEDD Adran y Pentre’ wedi trefnu Cymanfa Ganu Fodern yn Eglwys Dewi Sant nos Sul am 7.30yh.
Yr arweinydd oedd Elin Dafydd a’r artistiaid oedd aelodau a chyn-aelodau Adran Talgarreg, CFfI Pontsian a CFfI Caerwedros.
Y llywydd oedd Ffion Hughes (Bodwenog gynt). Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Cemotherapi, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Diolchir i bawb a ddaeth i gefnogi.
Bore Coffi
CYNHALIWYD Bore Coffi yn y Neuadd Goffa fore Gwener ddiwethaf, rhwng 10yb-12yp, gydag amrywiol stondinau a chacennau.
Roedd holl elw’r bore yn mynd tuag at Ofal Cancr Macmillan.
Diolchir i bawb am y gefnogaeth i’r digwyddiad boreol hyn, pryd y llwyddwyd i godi swm sylweddol o arian.
Capel Pisgah
CYNHELIR oedfa ddiolchgarwch Capel Pisgah ar nos Wener, 13 Hydref am 7yh.
Y pregethwr gwadd fydd y Parch Guto Llywelyn. Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.