THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
DDYDD Sul, bydd plant a phobl ifanc y capel yn cynnal eu Cwrdd Diolchgarwch yn y festri am 10.30yb.
Bydd ymweliad llywydd Cenedlaethol yr enwad ag ardal y Smotyn Du ar nos Sadwrn, 28 Hydref.
Noson Gymreig o Gawl a Chân sydd wedi cael ei drefnu yn Neuadd Talgarreg ar ei gyfer. Mae’r tocynnau yn £7.50 ac ar werth ar ddiwedd y Cwrdd y Plant ddydd Sul.
Mae yna apêl am gefnogaeth i’r noson, yn enwedig gan y bydd rhai o bobl ifanc y capel yn cymryd rhan.
Capel Pisgah
CYNHALIWYD yr Oedfa Ddiolchgarwch nos Wener ddiwethaf.
Y pregethwr gwadd oedd y Parch Guto Llywelyn a chafwyd neges amserol ganddo.
Estynnwyd croeso cynnes i bawb a hyfryd oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.