THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd oedfa undebol yng Nghapel y Graig am 10.30yb yng nghwmni’r Parch Cen Llwyd.
A hithau yn Sul y Cofio cafwyd neges arbennig gan y gweinidog. Fe gofiodd am ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas, sydd ar hyn o bryd yn sâl. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Ddydd Sul nesaf, croesawir y Parch Eric Jones, Aberdâr, i Gapel y Fadfa i gynnal gwasanaeth undebol ar gyfer y chwe chapel am 10.30yb.
Daeth llwyddiant i Carys Evans, Rhydsais a’i ffrind Lowri yn yr Wyl Gerdd Dant, wrth iddynt ennill y wobr gyntaf ar y gystadleuaeth ddeuawd dros y penwythnos.
Ffair Nadolig
DDYDD Sul cynhelir ffair Nadolig yn Neuadd D H Evans, Pontsian, pryd y bydd stondinau o bob math yn cael ei harddangos yno.
Bydd y ffair yn dechrau am 10.30yb a bydd rhywbeth at ddant pawb yno. Tâl mynediad yn £3 i gynnwys mins pei a gwin poeth.
Bydd holl elw’r dydd yn mynd tuag at declynnau cyfathrebu i blant adran iaith a lleferydd Hywel Dda. Dewch yn llu i gefnogi.
Cymdeithas yr Henoed
CYNHALIWYD Noson Tipit er budd y gymdeithas yn Nhafarn Glanyrafon ar nos Wener, 10 Tachwedd.
Daeth criw da at ei gilydd i fwynhau noson o gystadlu brwd. Ar ddiwedd y noson tîm Trio oedd yn fuddugol wedi cystadleuaeth agos yn erbyn Merched y Dyffryn.
Diolchodd cadeirydd y gymdeithas, Arwel Davies, i bawb am eu cefnogaeth gan gynnwys gwerthu a phrynu tocynnau raffl a chyfrannu at wobrau’r noson.
Diolchodd i Hefin a Megan Evans am eu croeso arferol ac am y gefnogaeth barod mae’r gymdeithas yn derbyn drwy’r flwyddyn.
Diolchodd hefyd i’r rhoddion derbyniwyd at waith y gymdeithas gan y tîm buddugol.
Yn ystod y noson, gwagwyd y botel arian mân sydd ar far y tafarn a chyflwynodd Hefin a Megan y swm o £71.42 i’r gymdeithas.
Gwnaethpwyd elw o £310 ar y noson (raffl, tipit a rhoddion) a bydd yr arian yn mynd tuag at anrheg Nadolig henoed ardal Talgarreg.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn bydd y canwr/digrifwr Clive Edwards nôl yn diddanu yng Ngwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Bydd hon yn noson hwylus yn ôl yr arfer, gyda Clive yn canu ei hoff ganeuon ac yn dweud ambell i jôc i gadw pawb i chwerthin.
Bydd holl elw yn mynd tuag at Ymchwil Cancr yn ôl yr arfer.
Codi arian
CYNHELIR gwerthiant partiau beiciau modur elusennol yn Nhafarn Bach ar ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd, o 1yp ymlaen.
Prynhawn gwych i unrhyw un brwdfrydig sydd â beic modur, i brynu neu werthu rhannau sbâr sydd eu hangen ar gyfer yr adferiadau hynny neu i gadw eu beiciau i redeg.
Bydd hyd at 14 fyrddau ar gael am £5 y bwrdd. Bydd yr holl arian yn mynd i Feiciau Gwaed Cymru.
Ffoniwch 01545 590818 am fanylion neu i gadw bwrdd.
Carolau
AR nos Sul, 26 Tachwedd, cynhelir Cymanfa Garolau yng Nghapel y Fadfa am 7yh.
Llywydd y noson fydd Gildas Evans, Cefn Mabws. Yr arweinydd fydd Manon Richards a’r organydd fydd Martin Griffiths. Yr artistiaid fydd Côr Tregroes, sydd newydd ddod yn ôl o daith yn yr Iseldiroedd yng nghwmni’r canwr Kees Huysmans, hefyd yn diddanu bydd Siôn Wyn o Penrhyncoch.
Mynediad drwy raglen sy’n £3 ac ar gael gan aelodau’r capel.
Holl elw’r noson tuag at y capel.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.