THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

NOS Sul nesaf am 7yh cynhelir Gwasanaeth Nadolig y Plant, cyfle i weld a chlywed y plant a’r bobl ifanc yn mynd drwy eu pethau yn cyfleu stori’r Nadolig ar lafar a chân.

I ddilyn bydd y te parti blynyddol yn cael ei gynnal yn y festri, pryd y bydd cyfle i anrhegi’r plant sydd wedi mynychu’r Ysgol Sul gydol y flwyddyn.

Bydd gwestai arbennig iawn yn troi fewn i’r festri i weld y plant, neb llai na Siôn Corn.

Croeso cynnes i pawb.

Ysgol

BYDD Meinir Jones yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, hwn yn dilyn cyfnod o 34 o flynyddoedd fel athrawes yn ysgol y pentref.

Mae’r staff a’r rhieni yn bwriadu gwneud casgliad fel rhodd arbennig iddi am oes o wasanaeth diflino i’r ysgol, felly mae croeso i unrhyw un i gyfrannu drwy’r ysgol mor fuan â phosib.

Noson Caws a Gwin

CYNHALIWYD noson gymdeithasol i godi arian ar gyfer Cylch Meithrin a Ti a Fi y pentref nos Fercher diwethaf yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.

Roedd ocsiwn ar y noson hefyd, felly diolch i’r holl gwmnïau, rhieni, staff a ffrindiau’r Cylch am yr eitemau i’r ocsiwn.

Hefyd diolch i bawb a gyfrannodd ac a gefnogodd ein noson mewn unrhyw fodd.

Cymuned hael a chefnogol dros ben sydd yn yr ardal hon. Codwyd y swm anhygoel o £2,202.50 ar y noson.

Gyrfa Chwist

NOS Iau cynhaliwyd gyrfa chwist yn Nhafarn Glanyrafon ac yn ôl yr arfer roedd croeso yn aros pawb.

Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at elusennau lleol.

Noson elusennol

NOS Wener cynhaliwyd noson arbennig yn Nhafarn Glanyrafon, gyda Hefin a Megan yn rhannu’r arian a godwyd ar hyd y flwyddyn mewn digwyddiadau yn y dafarn.

Mae’r ddau wedi bod yn cynnal gweithgareddau ers dros 30 o flynyddoedd er mwyn rhoi cymorth ariannol i elusennau lleol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]