THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

NOS Sul diwethaf am 7yh, cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y Plant yn y capel. Cyfle i weld a chlywed y plant a’r bobl ifanc yn mynd drwy eu pethau yn cyfleu stori’r Nadolig ar lafar a chân.

Ni chafodd y gynulleidfa eu siomi unwaith eto eleni, gan fod pawb wedi cyfleu’r stori yn arbennig iawn.

I ddilyn roedd y te parti blynyddol yn y festri a chyfle i anrhegi’r plant sydd wedi mynychu’r Ysgol Sul gydol y flwyddyn.

Daeth gwestai arbennig iawn i mewn i’r festri i weld y plant, neb llai na Siôn Corn. Hyfryd oedd gweld y byrddau wedi cael eu haddurno gyda bwyd o bob math.

Nadolig

CYNHELIR Oedfa Undebol am 9yb yng Nghapel y Cwm ar fore’r Nadolig gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

Gobeithir cael cwmni aelodau’r chwe chapel yn yr oedfa arbennig hon.

Ar fore Sul olaf y flwyddyn cynhelir Oedfa Undebol yng Nghapel y Fadfa am 10.30yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas, yn ein harwain mewn oedfa neilltuol ddiwedd blwyddyn.

Estynnir croeso cynnes i bawb i ymuno ag aelodau Capel y Fadfa i ddathlu’r hen flwyddyn ac i groesawi’r flwyddyn newydd i mewn.

Gadael ysgol

BYDD Meinir Jones yn ymddeol ar ddiwedd y tymor hwn, yn dilyn cyfnod o 34 o flynyddoedd fel athrawes yn ysgol y pentre.

Mae’r staff a’r rhieni yn bwriadu gwneud casgliad fel rhodd arbennig iddi am oes o wasanaeth diflino i’r ysgol.

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu cyn i’r ysgol dorri lan am y gwyliau ddiwedd yr wythnos hon.

Gwasanaeth carolau

BYDD gwasanaeth carolau am 9yh Noswyl y Nadolig yn yr Hen Gapel, Llwynrhydowen.

Awyrgylch arbennig, artistiaid lleol, gwin y gaeaf, mins peis, canu carolau a chroeso bendigedig i bawb!

Dewch â channwyll a lapiwch yn gynnes yw’r neges.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]