THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

OHERWYDD digwyddiadau eraill yr enwad, ni fydd oedfa tan ddydd Sul, 20 Mai am 10.30yb.

Cymanfa Bwnc

DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Cymanfa Bwnc yng Nghapel y Fadfa ar gyfer aelodau Capeli Llwynrhydowen, Pantydefaid a’r Graig. Yn llywyddu oedd y Parch Wyn Thomas, gweinidog y pedwar capel.

Rhoddwyd yr emynau allan gan Fflur a Caio, Elimai a Llyr a Mari.

Bu’r gweinidog yn holi’r plant ac ar gyfer yr oedolion cafwyd trafodaeth.

Wrth yr organ oedd Carol Rees.

I’r festri aeth pawb wedyn i gael paned a chyfle i gymdeithasu.

Neuadd Goffa

BU aelodau’r pwyllgor yn glanhau’r neuadd fore Sadwrn diwethaf a braf oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd.

Bydd Ben Lake, AS Ceredigion yn cynnal cymhorthfa yn y neuadd fore Gwener, 20 Ebrill.

Cynhelir pwyllgor blynyddol y neuadd ar nos Fawrth, 24 Ebrill am 7.30yh.

Capel Pisgah

BYDD taith gerdded flynyddol y capel ddydd Sadwrn; gadael maes parcio’r capel am 1yp.

Cymanfa Ganu

DDYDD Sul nesaf cynhelir Cymanfa Ganu Undodiaid Ceredigion yng Nghapel Alltyblaca; plant ac ieuenctid am 2yp a’r oedolion am 5.30yh.

Arweinydd gwadd fydd Catrin Evans, Henbant a’r organydd fydd Eirian Jones. Rowena Davies-Franklin o Gapel Pantydefaid fydd llywydd y prynhawn a Margaret Jones o Gapel Brondeifi gyda’r hwyr.

Croeso i unrhyw un gyd-ganu gyda’r côr yn ystod y ddau gyfarfod. Bydd lluniaeth rhwng y ddau gyfarfod.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]