THE latest community news from Tanygrisiau

Ysgol Tanygrisiau

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yn yr Ysgol dros y misoedd diwethaf gydag amrywiaeth iawn o weithgareddau yn mynd ‘mlaen.

Fodd bynnag, cyn ymhelaethu, mae’r ysgol am ddanfon diolchiadau mawr i Amanda Hughes, sydd yn ymddeol eleni wedi dros 28 o flynyddoedd yn yr ysgol fel cymhorthydd! Mi fydd colled fawr ar ôl Mrs Hughes yn sicr, ac mae’r ysgol yn dymuno’n dda iddi ar ei hymddeoliad.

Ym mis Mehefin, daeth PC John i ymweld â’r dosbarthiadau unwaith yn rhagor a chafwyd cystadlu yn Athletau’r Urdd yn Harlech gyda sawl llwyddiant. Da iawn yn arbennig i Seth, Caleb a Mia am fynd ymlaen i’r Athletau ym Mharc Eirias.

Cafwyd cystadlu hefyd yn y Gala Nofio dalgylchol. Er na enillwyd y prif wobrau tîm cafwyd ymdrech dda gan bawb gyda nifer yn ennill gwobrau unigol.

Ynghanol y gwres mawr cafwyd y mabolgampau gyda phob dosbarth o’r meithrin i’r chweched yn cystadlu a rhoi eu gorau. Roedd y tywydd yn boeth iawn ond cafwyd benthyca sawl gazebo gan rieni er mwyn cael lloches rhag yr haul.

At ddiwedd Mehefin cafwyd y trip blynyddol i Gelli Gyffwrdd unwaith yn rhagor a bu i’r dosbarthiadau fwynhau yn fawr iawn.

Daeth Gorffennaf â chyfle i’r genethod yn unig ymuno mewn chwaraeon ag ysgolion eraill y dalgylch yng nghae rygbi’r Blaenau. Cafwyd diwrnod pleserus iawn gan bawb.

Daeth Gorffennaf hefyd a chyfle i’r dosbarthiadau lleiaf, sef y meithrin a derbyn i gael mynd ar drip i Fferm Chwarae y Llanfair. Cafwyd hwyl fawr yma yn gweld a bwydo’r anifeiliaid.

Daeth Gorffennaf hefyd a chyfle i rai o ddisgyblion Bl 3, 4, 5 a 6 ymuno gyda’r RNLI yng Nghriccieth drwy gynllun Nofio’n Ddiogel (Safe Swim).

Caeodd yr ysgol am yr haf drwy gynnal disgo Cymreig drwy law’r cyngor ysgol a chyda Gai Toms yn dod i gynnal gig. Enillydd Gwobr Miss Brymer yr ysgol eleni oedd Amelia Young. Enillydd Gwobr Gareth oedd Oliver NIf you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected] orman.