THE latest community news from Trefor
Ysgol Sul
CAFWYD dechrau da i dymor newydd yr Ysgol Sul gydag 14 o blant.
Cafwyd stori o’r Beibl, cân, gêm a gwaith crefft.
Croeso i aelodau newydd.
Byddwn yn cyfarfod eto y Sul nesa (28 Hydref) ac yna’n cymryd wythnos o wyliau hanner tymor.
Bocsys Sgidiau
MAE Ysgol yr Eifl ac Eglwys Maesyneuadd yn casglu bocsys sgidiau llawn anrhegion ar gyfer plant a theuluoedd yn nwyrain Ewrop eleni eto o dan y cynllun Teams4U.
Bydd angen y bocsys i mewn erbyn dydd Mercher, 14 Tachwedd.
Taflenni ym Maesyneuadd neu gan Siân, Tir Du, [email protected] neu 660340.
Y Sul
FESTRI Maesyneuadd: 10.30yb, Ysgol Sul i’r plant a’r oedolion; 5.30yh, Parch Ddr Elwyn Richards, Caernarfon. Croeso i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.