THE latest community news from Trefor

Y Sul

Festri Maesyneuadd, Dim Ysgol Sul; 5.30yp, Oedfa Dechrau’r Flwyddyn.

Clwb Gwau

Bydd y Clwb Gwau yn cyfarfod yn Festri Maesyneuadd am 2yp ddydd Llun, 7 Ionawr. Mae’r aelodau yn gwau gwahanol eitemau ar gyfer achosion da. Beth am ymuno â nhw yn y flwyddyn newydd?

Cardiau a stampiau

Ar ôl tynnu’ch cardiau Nadolig i lawr, ewch â nhw i Maesyneuadd. Maen nhw’n mynd at achos da sy’n ailddefnyddio’r lluniau.

Hefyd, cesglir stampiau oddi ar amlenni sydd wedi’u defnyddio – mae’r rheiny’n mynd at gymdeithas y gwahangleifion.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]