THE latest community news from Nefyn.

Y Sul

FESTRI Maesyneuadd, 10yb, Parch Gwyn Rhydderch, Tudweiliog; 5.30yh, Oedfa Carcharorion Cydwybod -byddwn yn ysgrifennu cardiau post i galonogi pobl o dan gynllun Write for Rights Amnest Rhyngwladol. Bydd patrymau o frawddegau cyfarch a sticeri cyfeiriad ar gael. Bydd hefyd cardiau sbâr. Croeso i chi ddod draw, hyd yn oed os nad ydych yn arfer dod i’r oedfaon. Bob blwyddyn mae’r ymgyrch hon yn effeithiol yn codi calonnau pobl ac yn cadw eu henwau ym meddyliau’r awdurdodau.

Cardiau a stampiau

BYDD Eglwys Maesyneuadd yn casglu hen gardiau Nadolig a stampiau wedi’u defnyddio i fynd at achosion da ar ôl y Nadolig. Gadewch ddigon o le o gwmpas y stampiau.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]