THE latest community news from Trefor

Y Sul

FESTRI Maesyneuadd: 10.30yb, Ysgol Sul i’r plant a’r oedolion; 5.30yh, y Parch Angharad Roberts

Paned Prynhawn

YN FESTRI Maesyneuadd ddydd Llun, 16 Hydref, am 2yp mae ‘na gyfle i ymuno yng ngwasanaeth diolchgarwch plant Ysgol yr Eifl. Croeso i bawb.

Casgliad i helpu pobl sydd wedi colli popeth yn y Philipinas.

Bocsys esgidiau

ELENI eto mae Eglwys Maesyneuadd ac Ysgol yr Eifl yn cydweithio i gasglu bocsys esgidiau yn llawn anrhegion i blant yna fyddai’n cael dim anrhegion Nadolig fel arall.

Derbynnir bocsys llawn, eitemau unigol neu roddion ariannol. Mae angen y bocsys erbyn 13 Tachwedd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]